- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
10.—(1) Mewn unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dorri rheoliad 8(1) pan honnir nad yw ychwanegyn amrywiol wedi bodloni'r meini prawf purdeb ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw, mae'n amddiffyniad os yw'r cyhuddedig yn dangos—
(a)mai'r ychwanegyn amrywiol dan sylw yw E431-E43 neu polyethylen glycol 000 a bod yr ychwanegyn amrywiol dan sylw, neu unrhyw fwyd y'i defnyddiwyd ynddo neu arno, wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 1 Tachwedd 2004; neu
(b)mai'r ychwanegyn amrywiol dan sylw yw E407, E407A, E1517 neu E1519 ac y rhoddwyd yr ychwanegyn amrywiol neu'r bwyd sydd dan sylw ar y farchnad, neu y'i labelwyd, cyn 1 Ebrill 2005,
ac na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(1) pe na bai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 3 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005(2) wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd y mater hwnnw.
(2) Mewn unrhyw achos ar gyfer tramgwydd o dorri rheoliad 8 neu 9 mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn, mae'n amddiffyniad os profir bod—
(a)yr ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn dan sylw wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 27 Ionawr 2006; a
(b)na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 pe na bai'r diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau hynny gan reoliadau 3 i 6, 7(b), 8(a) a (b), 9(a), 10 ac 11(a) i (c), (d) i (ff) a (h) i (i) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005(3) wedi bod mewn grym pan roddwyd yr ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn ar y farchnad neu y'i labelwyd.
(3) Mewn unrhyw achos ar gyfer tramgwydd o dorri rheoliad 8 neu 9 mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn bwyd neu fwyd, mae'n amddiffyniad os profir bod—
(a)yr ychwanegyn bwyd neu'r bwyd dan sylw wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 15 Awst 2008; a
(b)na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 pe na bai'r diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau hynny gan reoliadau 5(a), 6(a), (b) ac (ch), ac 8 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008(4) wedi bod mewn grym pan roddwyd yr ychwanegyn bwyd, neu'r bwyd ar y farchnad neu y'i labelwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 10 mewn grym ar 20.1.2010, gweler rhl. 1
O.S. 1995/3187 fel y'i diwygiwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: