Defnyddio ychwanegion amrywiol8.
(1)
Ni chaiff neb ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir.
(2)
Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn yr Atodiad hwnnw mewn neu ar unrhyw fwyd sydd wedi ei restru yn Erthygl 2.3(a) o'r Gyfarwyddeb honno, ond nid yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.
(3)
Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn yr Atodiad hwnnw mewn neu ar unrhyw fwyd a restrir yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir neu y cyfeirir ato mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn yr ail golofn o'r Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf (os oes un) ar gyfer y cyfryw ychwanegyn, yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn y drydedd golofn o'r Atodiad hwnnw.
(4)
Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2 mewn neu ar unrhyw fwyd nad yw wedi ei restru yn Erthygl 2.3(a) o'r Gyfarwyddeb honno nac yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno ac nad yw'n fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, mewn maint sy'n fwy na quantum satis nac mewn modd nad yw'n cydymffurfio â Nodyn 2 ac ail baragraff Nodyn 3 i Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno.
(5)
Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn Atodiad III neu IV i Gyfarwyddeb 95/2 mewn neu ar unrhyw fwyd nad yw'n fwyd i fabanod neu blant ifanc, ac eithrio bwyd a restrir yn y naill neu'r llall o'r Atodiadau hynny mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw ac yn unol â'r darpariaethau a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny, sy'n llywodraethu'r defnydd o'r cyfryw ychwanegyn yn y bwyd hwnnw neu arno
(6)
Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo onid yw'r ychwanegyn hwnnw yn ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 95/2, ac y mae ei ddefnyddio yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau (os oes rhai) a grybwyllir mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw yn y drydedd golofn o'r Atodiad hwnnw.
(7)
Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc onid yw'r ychwanegyn hwnnw wedi ei restru yn Atodiad VI i Gyfarwyddeb 95/2 , ac os felly caniateir ei ddefnyddio yn unol â'r amodau hynny yn unig, a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw.
(8)
Ni chaiff neb ddefnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc, unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad gydag ychwanegyn amrywiol sydd wedi ei ddefnyddio'n bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, onid yw'r ychwanegyn amrywiol hwnnw wedi ei restru yn Atodiad VI i Gyfarwyddeb 95/2 a'i bresenoldeb yn y bwyd neu arno yn unol â'r amodau a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw.