Search Legislation

Gorchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 367 (Cy.37)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009

Gwnaed

23 Chwefror 2009

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) i (4)

Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), adroddiad dyddiedig Ebrill 2008 ar ei adolygiad o gymunedau mewn rhan o Sir Ynys Môn a'i gynigion ar eu cyfer.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu.

Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009.

(2At unrhyw ddiben a ddisgrifir yn rheoliad 4(1) o'r Rheoliadau, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl diwrnod ei wneud.

(3Mae erthyglau 6, 9 ac 11 yn dod i rym—

(a)at ddibenion gweithrediadau sy'n dod cyn unrhyw etholiad sydd i'w gynnal, neu sy'n ymwneud ag unrhyw etholiad o'r fath, ar ddiwrnod arferol ethol cynghorwyr yn 2012, ar 15 Hydref 2011;

(b)at bob diben arall, ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2012.

(4At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2009, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”), “Map C” (“Map C”) a “Map D” (“Map D”), yn ôl eu trefn, yw'r mapiau sydd wedi'u marcio ag A, B, C a D o Orchymyn Sir Ynys Môn (Cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf) 2009 ac sydd wedi'u hadneuo'n unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3);

  • mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at un o adrannau etholiadol Sir Ynys Môn; ac

  • os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd daearyddol tebyg, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.

3.  Mae newidiadau wedi'u gwneud yn ardal llywodraeth leol Sir Ynys Môn yn unol â darpariaethau canlynol y Gorchymyn hwn.

Trearddur a Chaergybi — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

4.  Mae'r rhan o gymuned Trearddur a ddangosir fel darn rhesog “A” ar Fap A—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Caergybi;

(b)yn rhan o ward Ffordd Llundain cymuned Caergybi; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Ffordd Llundain.

5.  Mae'r rhan o gymuned Trearddur a ddangosir fel darn rhesog “B” ar Fap A—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Caergybi;

(b)yn rhan o ward Kingsland yng nghymuned Caergybi; ac

(c)yn rhan o adran etholiadol Kingsland.

6.  Yng nghymuned Caergybi 2 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Kingsland, 2 yw'r nifer ar gyfer ward Ffordd Llundain, 2 yw'r nifer ar gyfer ward Morawelon a 3 yw'r nifer ar gyfer ward Porthyfelin.

Cwm Cadnant a Phenmynydd — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

7.  Mae'r rhan o gymuned Cwm Cadnant a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap B —

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Penmynydd; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Llanfihangel Ysgeifiog.

Cwm Cadnant a Phentraeth — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

8.  Mae'r rhan o gymuned Cwm Cadnant a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap C—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Pentraeth; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Pentraeth.

9.  Mae wardiau cymunedol cymuned Cwm Cadnant wedi'u diddymu a 12 yw nifer y cynghorwyr cymunedol sydd i'w hethol ar gyfer cymuned Cwm Cadnant.

Llanfair Mathafarn Eithaf a Phentraeth — newid mewn ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol

10.  Mae'r rhan o gymuned Llanfair Mathafarn Eithaf a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap D—

(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Pentraeth; a

(b)yn rhan o adran etholiadol Pentraeth.

11.  Yng nghymuned Llanfair Mathafarn Eithaf 2 yw nifer y cynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer ward Llanbedr-goch.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae'n rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”), a gyflwynodd adroddiad yn Ebrill 2008 ar ei adolygiad o ffiniau cymunedol mewn rhan o Sir Ynys Môn. Yn adroddiad y Comisiwn argymhellwyd gwneud newidiadau i ffiniau cymunedau Caergybi, Trearddur, Cwm Cadnant, Penmynydd, Pentraeth a Llanfair Mathafarn Eithaf a newidiadau canlyniadol i'r trefniadau etholiadol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.

Mae printiau o'r mapiau yn dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llangefni ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976, y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a gweithredu'r gorchmynion hynny.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi'u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol nad yw'r diwygiadau iddynt yn berthnasol i'r offeryn statudol hwn).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources