9.—(1) Yn ystod pob blwyddyn ariannol, rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi datganiad yn nodi—
(a)yr amcangyfrifon y mae'r awdurdod lleol wedi eu gwneud o dan reoliad 6(2) (amcangyfrifon o gyfanswm y costau ac amcangyfrifon o nifer y ceisiadau) mewn cysylltiad â'r ffi fesul uned ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol;
(b)sail yr amcangyfrifon hynny; ac
(c)swm y ffi fesul uned y mae'n ei argymell ar gyfer y flwyddyn ariannol ddilynol.
(2) Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, gan gychwyn â'r flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2010, rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi erbyn 30 Mehefin yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol honno, grynodeb yn nodi—
(a)cyfanswm y costau a dynnir gan yr awdurdod wrth ganiatáu mynediad i gofnodion eiddo neu wrth gyflawni trafodion mewnol;
(b)nifer y ceisiadau y mae'r costau hynny'n gysylltiedig â hwy; ac
(c)cyfanswm incwm (neu incwm tybiedig) yr awdurdod sy'n deillio o ffioedd a ffioedd mewnol a godir o dan reoliad 5.
(3) Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, yn cychwyn â'r flwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2010, rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi erbyn 30 Mehefin yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol honno, grynodeb yn nodi cyfanswm incwm yr awdurdod sy'n deillio o ffioedd a godir o dan reoliad 8 (ateb ymholiadau ynghylch eiddo).
(4) Rhaid i'r wybodaeth sydd i'w chyhoeddi o dan y rheoliad hwn gael ei chymeradwyo gan y person a chanddo gyfrifoldeb am weinyddu materion ariannol yr awdurdod lleol o dan adran 151 Deddf Llywodraeth Leol 1972(1).