Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 1) 2009

RHAN 1Darpariaethau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 2009

Y DdarpariaethY Pwnc
Adran 1 (1), (2), (3) a (4)(a) i (i)Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn
Adran 2Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr
Adran 5 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 2Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr
Adran 6Pwer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr
Adran 10Hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
Adran 11Dulliau teithio cynaliadwy
Adran 15Canllawiau a chyfarwyddiadau
Adran 16Gwybodaeth am drefniadau teithio
Adran 17(1) a (2)Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall
Adran 19Penderfynu ar breswylfa arferol mewn achosion penodol
Adran 21Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002
Adran 23Diwygiadau i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006
Adran 24Dehongli cyffredinol
Adran 25 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isodMân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 26 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isodDiddymiadau
Atodlen 1, paragraff 2(2)(c) i'r graddau y mae'n mewnosod paragraff (e) newydd o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 2(3) ac eithrio i'r graddau y mae'n rhoi i mewn gyfeiriad at baragraff (d) o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 4(1) i (4)Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Yn Atodlen 2 diddymiad—

  • Deddf Addysg 1996, yn adran 509AA, yn is-adran (2)(d) y geiriau “or the National Assembly for Wales”, is-adran (9A), ac yn is-adran (10) y geiriau “(in relation to local education authorities in England) or the National Assembly for Wales (in relation to local education authorities in Wales)”;

  • yn adran 509AB, is-adran (4), yn is-adran (6)(c) y geiriau “(in the case of a local education authority in England)”, yn is-adran (6)(d) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair hwnnw'n ymddangos;yn adran 509AC, is-adran (3), yn is-adran (6) y geiriau ar ôl “subsection (5)” i ddiwedd yr is-adran, is-adran (7).

  • Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006, adran 83, is-adran (1), yn is-adran (2) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair yn ymddangos, ac is-adran (3);

  • Atodlen 10, paragraff 5(b).

Diddymiadau