2009 Rhif 371 (Cy.39) (C.45)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 1) 2009

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 28(2) o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 20081, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 1) 2009.

2

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

Diwrnodau penodedig2

1

Mae darpariaethau'r Mesur a osodir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 6 Mawrth 2009.

2

Mae darpariaethau'r Mesur a osodir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i ddod i rym ar 1Medi 2009.

Ieuan Wyn JonesY Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

YR ATODLEN

Erthygl 2

RHAN 1Darpariaethau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 2009

Y Ddarpariaeth

Y Pwnc

Adran 1 (1), (2), (3) a (4)(a) i (i)

Y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn

Adran 2

Dyletswydd i asesu anghenion teithio dysgwyr

Adran 5 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 2

Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr

Adran 6

Pwer awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio i ddysgwyr

Adran 10

Hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg

Adran 11

Dulliau teithio cynaliadwy

Adran 15

Canllawiau a chyfarwyddiadau

Adran 16

Gwybodaeth am drefniadau teithio

Adran 17(1) a (2)

Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall

Adran 19

Penderfynu ar breswylfa arferol mewn achosion penodol

Adran 21

Diwygiadau i Ddeddf Addysg 2002

Adran 23

Diwygiadau i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006

Adran 24

Dehongli cyffredinol

Adran 25 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Adran 26 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod

Diddymiadau

Atodlen 1, paragraff 2(2)(c) i'r graddau y mae'n mewnosod paragraff (e) newydd o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 2(3) ac eithrio i'r graddau y mae'n rhoi i mewn gyfeiriad at baragraff (d) o is-adran (1B) o adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, paragraff 4(1) i (4)

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Yn Atodlen 2 diddymiad—

  • Deddf Addysg 1996, yn adran 509AA, yn is-adran (2)(d) y geiriau “or the National Assembly for Wales”, is-adran (9A), ac yn is-adran (10) y geiriau “(in relation to local education authorities in England) or the National Assembly for Wales (in relation to local education authorities in Wales)”;

  • yn adran 509AB, is-adran (4), yn is-adran (6)(c) y geiriau “(in the case of a local education authority in England)”, yn is-adran (6)(d) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair hwnnw'n ymddangos;yn adran 509AC, is-adran (3), yn is-adran (6) y geiriau ar ôl “subsection (5)” i ddiwedd yr is-adran, is-adran (7).

  • Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006, adran 83, is-adran (1), yn is-adran (2) y geiriau ar ôl “England” i ddiwedd yr is-adran honno y tro cyntaf y mae'r gair yn ymddangos, ac is-adran (3);

  • Atodlen 10, paragraff 5(b).

Diddymiadau

RHAN 2Darpariaethau'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sy'n dod i rym ar 1 Medi 2009

Y Ddarpariaeth

Y Pwnc

Adran 3

Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau cludo

Adran 4

Dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio eraill

Adran 5 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym

Terfynau dyletswyddau sy'n ymwneud â theithio gan ddysgwyr

Adran 7

Trefniadau teithio i ddysgwyr mewn addysg neu hyfforddiant ôl-16

Adran 8

Trefniadau teithio i fan lle y darperir addysg feithrin ac oddi yno

Adran 9

Trefniadau teithio i ddysgwyr a'r rheini'n drefniadau nad ydynt i ffafrio mathau penodol o addysg neu hyfforddiant

Adran 17(3)

Cydweithredu: gwybodaeth a chymorth arall

Adran 18

Talu costau teithio gan awdurdod lleol y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo

Adran 20

Diwygiadau i adran 444 o Ddeddf Addysg 1996

Adran 22

Diwygiadau i adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996

Adran 25 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 1 isod.

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Adran 26 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod.

Diddymiadau

Atodlen 1, paragraffau 1, 2 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, 3, 4(5), 5

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Yn Atodlen 2, diddymiad—

  • Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981, yn adran 46(3)(a) y geiriau “section 509(1) or (1A)”;

  • Deddf Trafnidiaeth 1985, yn adran 6(1B) y geiriau “section 509(1) or (1A)” ym mharagraff (a) a'r gair “or” ym mharagraff (b);

  • Deddf Addysg 1996,yn adran 444(5) y geiriau “and (4)”, yn adran 455, yn is-adran (1)(c) y geiriau “or 509(2)” ac yn is-adran (2)(b) “or” ar ddiwedd yr is-adran,

  • adran 509 i'r graddau y mae'n ymwneud ag awdurdod addysg lleol yng Nghymru,

  • yn adran 509A, yn is-adran (5), y geiriau “in relation to England,” a pharagraff (b);

  • Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 133;

  • Deddf Dysgu a Sgiliau, 2000, Atodlen 9, paragraff 59;

  • Deddf Addysg 2002, Atodlen 19, paragraff 2, Atodlen 21, paragraff 51.

Diddymiadau

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Mae'n peri bod y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn Rhannau 1 a 2 yn eu tro o'r Atodlen i'r Gorchymyn yn dod i rym ar 6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 2009.

Dyma effeithiau darpariaethau'r Mesur a ddaw i rym ar 6 Mawrth 2009:

  • Mae adran 1 yn diffinio'r prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur. Dygir yr adran hon i rym ar wahân i baragraff (j) o is-adran (1).

  • Mae adran 2 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i asesu anghenion teithio dysgwyr yn eu hardal.

  • Dygir adran 5 i rym mewn perthynas ag adran 2 ac mae'n cyfyngu ar y dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan yr adran honno fel nad ydynt yn ymestyn i deithio yn ystod y dydd nac i deithio at ddibenion ac eithrio mynychu man perthnasol ar gyfer addysg a hyfforddiant.

  • Mae adran 6 yn rhoi'r pwer i awdurdod lleol i wneud trefniadau ar gyfer teithio gan ddysgwyr yn ôl ac ymlaen o fan lle maent yn derbyn addysg neu hyfforddiant.

  • Mae adran 10 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol ac ar Weinidogion Cymru, pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur, i hybu mynediad i addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

  • Mae adran 11 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol ac ar Weinidogion Cymru i hybu moddion cynaliadwy o deithio pan fyddant yn arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur.

  • Mae adran 15 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach roi sylw i ganllawiau ac i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru.

  • Mae adran 16 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi gwybodaeth ynghylch trefniadau teithio.

  • Mae adran 17 (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol gydweithredu.

  • Mae adran 19 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu preswylfa arferol person mewn amgylchiadau penodol.

  • Mae adran 21 yn diwygio adran 32 o Ddeddf Addysg 2002 er mwyn galluogi awdurdodau lleol i bennu amserau sesiynau ysgol mewn amgylchiadau penodol.

  • Mae adran 23 yn diwygio Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio cyfeiriadau mewn Mesurau at awdurdod addysg lleol.

  • Mae adran 24 yn cynnwys diffiniadau cyffredinol.

  • Mae adran 25 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau mân a chanlyniadol.

  • Mae adran 26 ac Atodlen 2 yn diddymu darpariaethau amrywiol mewn Deddfau Seneddol.

Dyma effeithiau darpariaethau'r Mesur a ddygir i rym ar 1 Medi 2009:

  • Mae adran 3 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau cludiant ar gyfer plant o oed ysgol gorfodol yn yr amgylchiadau a osodir yn y tabl yn yr adran honno.

  • Mae adran 4 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i wneud trefniadau teithio ar gyfer plant o oed ysgol gorfodol os yw'r awdurdod yn credu fod hynny'n angenrheidiol.

  • Dygir adran 5 i rym yn llawn fel nad yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 3 a 4 (yn ogystal ag adran 2) yn ymestyn i deithio yn ystod y dydd nac i deithio at ddibenion ac eithrio mynychu man perthnasol ar gyfer addysg a hyfforddiant.

  • Mae adran 7 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch trefniadau teithio ar gyfer dysgwyr ôl-16.

  • Mae adran 8 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch trefniadau teithio i blant o oed meithrin.

  • Mae adran 9 yn gwahardd trefniadau teithio a wneir o dan adran 3, 4 a 6 rhag gwahaniaethu rhwng gwahanol gategorïau o ddysgwyr.

  • Mae adran 17(3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynorthwyo penaethiaid ysgolion mewn perthynas ag ymddygiad disgyblion.

  • Mae adran 18 yn galluogi awdurdod lleol sy'n gwneud y trefniadau teithio ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal i hawlio ad-daliad o'r costau oddi wrth awdurdod arall y mae'r plentyn yn derbyn gofal ganddo.

  • Mae adran 20 yn diwygio adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 (y tramgwydd ar ran rhiant o fethu â sicrhau fod disgybl cofrestredig yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd).

  • Mae adran 22 yn diwygio adrannau 455 a 456 o Ddeddf Addysg 1996 (codi a rheoleiddio taliadau a ganiateir).

  • Mae adran 25 ac Atodlen 1 yn gwneud newidiadau mân a chanlyniadol.

  • Mae adran 26 ac Atodlen 2 yn diddymu darpariaethau amrywiol mewn Deddfau Seneddol.