7. Pan fo adar yn cael eu symud i neu oddi wrth ddaliad rhaid i'r meddiannydd gofnodi ar gyfer pob haid —
(a)dyddiad y symud;
(b)p'un a oedd y symud i'r daliad neu oddi wrtho;
(c)nifer yr adar a symudwyd;
(ch)oed yr adar a symudwyd;
(d)yn achos symud haid gyfan, dull adnabod yr haid honno, pan fo rhagor nag un haid ar y daliad.
(dd)dull adnabod yr adeilad neu'r grwp o adeiladau y symudwyd yr adar iddo, iddynt, oddi wrtho neu oddi wrthynt;
(e)cyfeiriad y daliad o le y daethant neu'r lladd-dy neu'r daliad yr anfonwyd hwy iddo.