2009 Rhif 456 (Cy.47)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol, Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 61, 66, 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol, Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol a Chytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 26 Mawrth 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn —

  • ystyr “Rheoliadau Ffioedd Deintyddol” (“Dental Charges Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 20062;

  • ystyr “Rheoliadau GDS” (“GDS Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 20063; ac

  • ystyr “Rheoliadau PDS” (“PDS Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 20064.

Diwygiadau i Reoliadau Ffioedd Deintyddol3

Yn Atodlen 3 i Reoliadau Ffioedd Deintyddol (Ffioedd Band 3 — Darparu Cyferpynnau)—

a

yn lle paragraff (a) rhodder—

a

laboratory fabricated porcelain or composite veneers, including acid etch retention

b

ym mharagraff (m), ar ôl y gair “other” mewnosoder “non-metallic”.

Diwygio Rheoliadau GDS4

Yn Atodlen 2 i Reoliadau GDS (unedau o weithgaredd deintyddol), ym mharagraff 2, yn Nhabl B—

a

o dan y cofnod olaf yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi) ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Conservation treatment of deciduous teeth in a patient who is aged under 18 years at the beginning of a course of treatment

b

o dan y cofnod olaf yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir) ychwaneger y cofnod a ganlyn—

3.0

Diwygio Rheoliadau PDS5

Yn Atodlen 2 i Reoliadau PDS (unedau o weithgaredd deintyddol), ym mharagraff 2, yn Nhabl B—

a

o dan y cofnod olaf yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi) ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Conservation treatment of deciduous teeth in a patient who is aged under 18 years at the beginning of a course of treatment

b

o dan y cofnod olaf yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir) ychwaneger y cofnod a ganlyn—

3.0

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau Ffioedd Deintyddol”) (O.S. 2006/491 (Cy.60)), Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau GDS”) (O.S. 2006/490 (Cy.59)) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau PDS”) (O.S. 2006/489 (Cy.58)).

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Ffioedd Deintyddol. Mae Rheoliad 3(a) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r cyfeiriad at argaenau yn y rhestr o gyferpynnau y caniateir codi ac adennill ffi Band 3 mewn cysylltiad â hwy ac a geir yn Atodlen 3 i Reoliadau Ffioedd Deintyddol er mwyn ei gwneud yn glir na chaniateir defnyddio ond argaenau wedi eu gweithgynhyrchu mewn labordy.

Mae Rheoliad 3(b) yn diwygio'r cyfeiriad at “bridges in other materials” (pontydd mewn deunyddiau eraill) yn y rhestr o gyferpynnau y caniateir codi ac adennill ffi Band 3 mewn cysylltiad â hwy ac a geir yn Atodlen 3 i Reoliadau Ffioedd Deintyddol, er mwyn ei gwneud yn glir pa ddeunyddiau y caniateir eu defnyddio.

Mae Rheoliadau 4 a 5 yn eu trefn yn diwygio Rheoliadau GDS a Rheoliadau PDS drwy ychwanegu, yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny, weithgaredd deintyddol pellach i'w ddarparu o dan y contract neu'r cytundeb mewn cysylltiad â thriniaeth gadwraeth ar ddannedd cynradd claf sydd o dan 18 oed ar ddechrau cwrs o driniaeth, a bod y driniaeth honno'n denu 3.0 uned o weithgaredd deintyddol.

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn gan na fyddant yn effeithio ar gostau busnesau, elusennau neu gyrff gwirfoddol.