6.—(1) Diwygir rheoliad 15 (cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol) fel a ganlyn:
(2) Yn lle paragraff (1)(ch) rhodder “nodi ac ystyried blaenoriaethau gan roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 30(1)”.
(3) Yn lle paragraff (4), rhodder—
“Caiff Gweinidogion Cymru lunio mapiau sŵn cyfunol mewn cysylltiad ag unrhyw ardal a geir mewn unrhyw fapiau sŵn strategol—
sy'n cael eu gwneud neu eu hadolygu yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 a'u mabwysiadu yn unol â rheoliad 23, a
sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y rhoddir ystyriaeth iddi yn y cynllun gweithredu.”