1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Datgymhwyso) (Cymru) 2009.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw Rheoliadau sy'n dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Tir) 1994(1) i rym.
(3) Dim ond i awdurdodau lleol yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.