Search Legislation

Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Y weithdrefn ar gyfer newid amserau sesiynau ysgolion gan gorff llywodraethu

4.—(1Pan fo corff llywodraethu ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir yn bwriadu gwneud unrhyw newid i amserau sesiynau'r ysgol (neu os mai un yn unig sydd, i sesiwn ysgol), rhaid iddo wneud y canlynol —

(a)cyn cymryd unrhyw un o'r camau a grybwyllir ym mharagraff (b) i (e), ymgynghori â'r awdurdod addysg lleol, y pennaeth a holl staff arall yr ysgol;

(b)paratoi datganiad—

(i)yn dynodi ei fod yn bwriadu newid yr amserau hynny,

(ii)yn pennu'r newid arfaethedig a pha bryd y bwriedir iddo ddod i rym,

(iii)yn tynnu sylw at unrhyw sylwadau ar yr hyn a fwriedir fel y'i rhoddir yn yr atodiad i'r datganiad yn rhinwedd paragraff (c) a chynnwys unrhyw ymateb i'r sylwadau ag y mae'n ei ystyried yn briodol, a

(iv)yn rhoi manylion dyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod y mae'n ofynnol iddo'i gynnal yn rhinwedd paragraff (dd) ac yn esbonio y caiff y sawl nad yw'n gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y newid arfaethedig cyn i'r cyfarfod ddigwydd;

(c)os yw'r awdurdod addysg lleol yn gwneud hynny'n ofynnol ganddo, cynnwys fel atodiad i'r datganiad hwnnw unrhyw sylw ysgrifenedig y caiff yr awdurdod ei ddarparu at y diben hwnnw;

(ch)cynhyrchu'r datganiad hwnnw ac unrhyw atodiad mewn unrhyw iaith neu ieithoedd (yn ychwanegol at Gymraeg neu Saesneg), os oes y cyfryw, ag y mae'n ei ystyried yn briodol neu yn ôl fel y caiff yr awdurdod addysg lleol gyfarwyddo;

(d)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau—

(i)bod rhieni pob disgybl sydd wedi'i gofrestru yn yr ysgol yn cael copi o'r datganiad ac unrhyw atodiad (yn rhad ac am ddim) o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod y mae'n ofynnol iddo'i gynnal yn rhinwedd paragraff (dd), a

(ii)bod copïau o'r datganiad ac unrhyw atodiad ar gael i'w gweld (ar bob adeg resymol ac yn rhad ac am ddim) yn yr ysgol yn ystod y pythefnos yn union cyn y cyfarfod hwnnw;

(dd)rhoi cyfle i drafod yr hyn a fwriedir mewn cyfarfod sy'n agored i—

(i)pob rhiant i bob disgybl cofrestredig yn yr ysgol,

(ii)y pennaeth a holl staff arall yr ysgol, a

(iii)unrhyw bersonau eraill y caiff y corff llywodraethu eu gwahodd;

(e)ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (b)(iv) ac unrhyw sylwadau a wnaed yn y cyfarfod ar yr hyn a fwriedir cyn penderfynu a ddylid newid yr amserau hynny o gwbl ac (os felly) a ddylid gweithredu'r bwriad gydag unrhyw addasiad neu heb ei addasu.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os bydd y corff llywodraethu yn penderfynu gweithredu'r newid arfaethedig (naill ai gydag addasiad neu heb ei addasu), rhaid iddo, o leiaf chwe wythnos cyn y bydd unrhyw newid yn yr amserau hynny yn dod i rym—

(i)hysbysu'r awdurdod lleol addysg o'r newid a pha bryd y bydd yn dod i rym, a

(ii)cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl a gofrestrwyd yn yr ysgol yn cael eu hysbysu o hynny.

(3Pan fo'r newid yn ymwneud â—

(a)yr amserau pan yw'r sesiwn ysgol gyntaf i ddechrau neu pan yw'r ail sesiwn ysgol i ddiweddu (neu'r ddau), neu

(b)os mae un sesiwn yn unig sydd, yr amser pan yw i ddechrau neu ddiweddu (neu'r ddau),

rhaid i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) beidio â bod yn llai na thri mis.

(4Rhaid gweithredu newid i amserau sesiwn ysgol fel y bydd yn dod i rym—

(a)pan fo paragraff (3) yn gymwys, ar ddechrau blwyddyn ysgol; a

(b)ym mhob achos arall, ar ddechrau tymor ysgol.

(5Mae dull gweithredu unrhyw gyfarfod a gynhelir yn rhinwedd paragraff (1)(dd) i fod dan reolaeth y corff llywodraethu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources