Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod รข darpariaethau Adran 147 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) (a darpariaethau cysylltiedig) i rym ar 6 Ebrill 2009. Mae adran 147 yn symud ymaith atebolrwydd priod neu riant i gyfrannu tuag at gost llety a ddarperir gan awdurdod lleol ar gyfer y person dan sylw o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.