xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 709 (Cy.61)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009

Gwnaed

16 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

16 Mawrth 2009

Yn dod i rym

6 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2009.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(2).

Diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau

2.  Yn rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) ym mharagraff (1), yn lle “£15,050” rhodder “£15,276”.

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau

3.  Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yng ngholofn 2 o Dabl A, yn y cofnod ynghylch rheoliad 53, yn lle “£19,000” rhodder “£20,750”.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 2007 (“y prif Reoliadau”).

Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth fel bod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau penodol oddi wrth y wladwriaeth neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu taliadau penodol neu gael ad-daliad ohonynt, a'r taliadau hynny fel arall yn daladwy o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“taliadau GIG”) a chael taliad am dreuliau teithio a dynnwyd wrth gael gwasanaethau GIG penodol (“treuliau teithio GIG”).

Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a chael taliad am dreuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.

Mae rheoliad 2 yn cynyddu swm yr incwm y caiff person sy'n derbyn credydau treth ei dderbyn tra bydd yn parhau i fod â hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn o dan reoliad 5 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn gwneud newidiadau i'r terfynau cyfalaf a ddefnyddir i gyfrifo hawl i beidio â thalu ac i gael taliad drwy gynyddu'r terfyn cyfalaf isaf o £19,000 i £20,750 ar gyfer pobl sy'n byw'n barhaol mewn cartrefi gofal.

(2)

O.S. 2007/1104 (Cy.116); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153), 1879 a 2568 (Cy.226).