- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
16 Mawrth 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Mawrth 2009
Yn dod i rym
6 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 130, 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2009.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007(2).
2. Yn rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) ym mharagraff (1), yn lle “£15,050” rhodder “£15,276”.
3. Yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987), yng ngholofn 2 o Dabl A, yn y cofnod ynghylch rheoliad 53, yn lle “£19,000” rhodder “£20,750”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl 2007 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth fel bod pobl sydd naill ai'n cael budd-daliadau penodol oddi wrth y wladwriaeth neu sydd ar incwm isel yn cael peidio â thalu taliadau penodol neu gael ad-daliad ohonynt, a'r taliadau hynny fel arall yn daladwy o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“taliadau GIG”) a chael taliad am dreuliau teithio a dynnwyd wrth gael gwasanaethau GIG penodol (“treuliau teithio GIG”).
Wrth gyfrifo adnoddau a gofynion person o dan y prif Reoliadau er mwyn canfod a oes gan berson hawl i beidio â thalu taliadau GIG a chael taliad am dreuliau teithio GIG, defnyddir fersiwn addasedig o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
Mae rheoliad 2 yn cynyddu swm yr incwm y caiff person sy'n derbyn credydau treth ei dderbyn tra bydd yn parhau i fod â hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn o dan reoliad 5 o'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 3 yn gwneud newidiadau i'r terfynau cyfalaf a ddefnyddir i gyfrifo hawl i beidio â thalu ac i gael taliad drwy gynyddu'r terfyn cyfalaf isaf o £19,000 i £20,750 ar gyfer pobl sy'n byw'n barhaol mewn cartrefi gofal.
O.S. 2007/1104 (Cy.116); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2008/1480 (Cy.153), 1879 a 2568 (Cy.226).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: