xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 778 (Cy.66)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009

Gwnaed

24 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Mawrth 2009

Yn dod i rym

1 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 203(9) a (10) a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 2 iddi yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mehefin 2009.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

Sefydlu Byrddau Iechyd Lleol

3.  Yn effeithiol o'r dyddiad sefydlu, sefydlir y chwe Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yng ngholofn 1 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac fe'u gelwir wrth yr enwau a bennir ar eu cyfer yn yr Atodlen honno.

Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol

4.—(1Mae pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yn cyfateb i'r prif ardaloedd llywodraeth leol a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

(2Os yw'r prif ardaloedd llywodraeth leol a bennir ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1) uchod yn cael eu hamrywio, yna mae ardal y Bwrdd Iechyd Lleol i gael ei hamrywio yn unol â hynny.

(3Nid yw paragraff (2) uchod yn gymwys i'r weithred o greu prif ardal newydd llywodraeth leol, o ddiddymu prif ardal bresennol llywodraeth leol neu o uno dwy brif ardal llywodraeth leol neu fwy.

Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifyddu Byrddau Iechyd Lleol

5.—(1Dyddiad gweithredol pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yw 1 Hydref 2009.

(2Dyddiad cyfrifyddu pob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 i'r Gorchymyn hwn yw 31 Mawrth.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol

6.  Rhwng dyddiad ei sefydlu a'i ddyddiad gweithredol, bydd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn y swyddogaethau a ganlyn—

(a)ymrwymo i gontractau'r GIG;

(b)ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac

(c)gwneud y cyfryw bethau eraill ag sy'n rhesymol angenrheidiol i'w alluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol yn effeithiol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.

Diddymiadau

7.  Diddymir, yn effeithiol o'r dyddiad diddymu, yr un ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol a restrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a sefydlwyd gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003(3).

Diwygiadau i'r Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003

8.  Diwygir Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 yn unol ag erthygl 9.

9.  Yn effeithiol o'r dyddiad diddymu, dileer yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (enwau byrddau iechyd lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer) a rhodder yn ei lle'r Atodlen yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2009

Erthyglau 3 a 4

ATODLEN 1Enwau Byrddau Iechyd Lleol a Phrif Ardaloedd Llywodraeth Leol y sefydlir hwy ar eu cyfer

Colofn 1Colofn 2
Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3Prif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir y Bwrdd Iechyd Lleol ar eu cyfer

1  Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

Casnewydd, Tor-faen, Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent

2  Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf

3  Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Caerdydd a Bro Morgannwg

4  Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe

5  Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion

6  Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Gwynedd, Wrecsam, Conwy ac Ynys Môn

Erthygl 7

ATODLEN 2Y 21 o Fyrddau Iechyd Lleol a ddiddymir yn effeithiol o 1 Hydref 2009

Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan erthygl 3 o Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003
1Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn
2Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd
3Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd
4Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion
5Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin
6Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych
7Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint
8Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy
9Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro
10Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe
11Bwrdd Iechyd Lleol Conwy
12Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent
13Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr
14Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili
15Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful
16Bwrdd Iechyd Lleol Castell-nedd Port Talbot
17Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd
18Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Rhondda Cynon Taf
19Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen
20Bwrdd Iechyd Lleol Bro Morgannwg
21Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam

Erthyglau 8 a 9

ATODLEN 3

Erthyglau 3 a 5

ATODLENEnwau Byrddau Iechyd Lleol a Phrif Ardaloedd Llywodraeth Leol y sefydlir hwy ar eu cyfer

Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3Y brif ardal llywodraeth leol y sefydlir y Bwrdd Iechyd Lleol ar ei chyfer
1Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu PowysPowys

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu chwe Bwrdd Iechyd Lleol newydd fel y darperir ar eu cyfer yn adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (2006 p.42) ac mae erthygl 4 yn nodi'r ardaloedd y sefydlir hwy ar eu cyfer. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu yn erthyglau 5 a 6 ar gyfer swyddogaethau dros dro Byrddau Iechyd Lleol rhwng dyddiad eu sefydlu a'u dyddiad gweithredol ac yn nodi eu dyddiad cyfrifyddu.

Mae erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn yn dirymu ar 1 Hydref 2009 un ar hugain o'r ddau ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru.

Mae erthyglau 8 a 9 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau i'r Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (2003/148 (Cy.18)) (“Gorchymyn 2003”) er mwyn dileu o'r Atodlen honno enwau un ar hugain o Fyrddau Iechyd Lleol a ddiddymir o dan erthygl 7 o'r Gorchymyn hwn. Bydd Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yn parhau ar ei ffurf bresennol fel y'i sefydlwyd o dan Orchymyn 2003 ac mae'r diwygiadau a wneir o dan erthygl 9 yn adlewyrchu hyn.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Mewn perthynas ag aelodaeth a chyfansoddiad Byrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/779 (Cy.67)).

(2)

1972 p.70. Amnewidiwyd Rhannau I a II o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994.