- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3.—(1) Mae aelodau o'r Bwrdd yn cynnwys—
(a)cadeirydd;
(b)is-gadeirydd;
(c)swyddog-aelodau; ac
(ch)aelodau nad ydynt yn swyddogion.
(2) Mae'r swyddog-aelodau yn cynnwys y—
(a)prif swyddog;
(b)swyddog meddygol;
(c)swyddog cyllid;
(ch)swyddog nyrsio;
(d)swyddog sy'n gyfrifol am ddarparu'r canlynol—
(i)gwasanaethau gofal sylfaenol;
(ii)gwasanaethau gofal cymunedol; a
(iii)gwasanaethau iechyd meddwl.
(dd)swyddog sy'n gyfrifol am ddatblygu'r gweithlu a datblygu sefydliadol;
(e)swyddog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd;
(f)swyddog sy'n gyfrifol am y cynllunio strategol a gweithredol i ddarparu gwasanaethau iechyd;
(g)Swyddog sy'n gyfrifol am therapïau a gwyddor iechyd.
(3) Bydd gan y swyddog-aelodau ym mharagraff 2 unrhyw gyfrifoldebau eraill a ragnodir gan y Bwrdd.
(4) Mae naw o aelodau nad ydynt yn swyddogion a rhaid iddynt gynnwys—
(a)aelod awdurdod lleol;
(b)aelod sefydliad gwirfoddol;
(c)aelod undeb llafur;
(ch)person sy'n dal swydd mewn prifysgol sy'n gysylltiedig ag iechyd.
(5) Yn ychwanegol, caniateir i aelodau cyswllt gael eu penodi'n unol â rheoliad 4(3) a (4).
4.—(1) Mae'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru.
(2) Mae'r swyddog-aelodau yn cael eu penodi gan y Bwrdd.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru benodi dim mwy na thri aelod cyswllt.
(4) Os yw'r Bwrdd yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn cyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau, caiff benodi un aelod cyswllt.
(5) Cyn gwneud penodiad yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r Bwrdd fod wedi cael cydsyniad ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.
(6) Pan fo'r Bwrdd yn gwneud penodiad yn unol â pharagraffau (2) neu (4), rhaid iddo roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd ynghylch penodiadau.
(7) Bydd penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) yn unol â darpariaethau yn Atodlen (1) (pan fônt yn gymwys).
(8) Pan fo person yn cael ei benodi'n unol â pharagraffau (1), (3) a (4), rhaid rhoi sylw i'r angen i hyrwyddo amrywiaeth yn y rhychwant o bersonau y caniateir eu penodi ac i sicrhau eu bod yn cynrychioli buddiannau'r gymuned yn ardal y Bwrdd.
(9) Caiff pob awdurdod lleol yn ardal y Bwrdd enwebu dau berson a chaiff Gweinidogion Cymru ddewis person o blith y personau a enwebir i fod yn aelod awdurdod lleol o dan reoliad 3(4)(a).
(10) Caiff y brifysgol yn ngholofn 1 o Atodlen 4 enwebu dau berson a chaiff Gweinidogion Cymru ddewis person o blith y personau hynny a enwebir i fod yn aelod prifysgol o dan reoliad 3(4)(ch) ar gyfer y Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi'i neilltuo iddi yng ngholofn 2 o Atodlen 4.
5. Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt, rhaid iddo fodloni'r gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Atodlen 2 a pharhau i gyflawni'r gofynion perthnasol tra bo'n dal y swydd honno.
6.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—
(a)yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog; neu
(b)yn aelod cyswllt sy'n cael ei benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4(3).
(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, bydd aelod neu aelod cyswllt yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.
(3) Caniateir i aelod neu aelod cyswllt gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i aelod neu aelod cyswllt, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliadau 4(1) neu 4(3).
(5) Ni chaiff person ddal swydd fel aelod nac fel aelod cyswllt i'r un Bwrdd am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.
7.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod cyswllt gan y Bwrdd yn unol â rheoliad 4(4).
(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae aelod cyswllt yn dal a gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.
(3) Caniateir i aelod cyswllt gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na blwyddyn.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i aelod cyswllt, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(4).
(5) Ni chaiff person ddal swydd fel aelod cyswllt i'r un Bwrdd am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.
8.—(1) Caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud swyddog-aelod o'i swydd ar unwaith—
(a)os ydynt o'r farn nad yw er budd y Bwrdd i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod; neu
(b)os ydynt, ar ôl cael eu hysbysu gan swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), o'r farn nad yw er budd y Bwrdd i berson sy'n swyddog-aelod barhau ei ddal swydd fel aelod.
(2) Os bydd yr holl swyddog-aelodau (ac eithrio swyddog-aelod sy'n destun hysbysiad i'r cadeirydd o dan y paragraff hwn) o'r farn na ddylai person sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod, cânt hysbysu'r Bwrdd.
(3) Pan fo'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn symud person o swydd yn unol â pharagraff (1) neu, ar ôl iddynt gael eu hysbysu gan y swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu y dylai person barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad.
(4) Pan fo person wedi'i benodi i fod yn swyddog-aelod, a'i bod yn dod i sylw'r cadeirydd, yr is-gadeirydd neu unrhyw aelod nad yw'n swyddog fod y person —
(a)wedi dod yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2; neu
(b)adeg ei benodi, yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2.
rhaid iddynt hysbysu'r Bwrdd ar unwaith a rhaid i'r cadeirydd hysbysu'r swyddog-aelod hwnnw a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen o'r anghymhwystra hwnnw.
(5) Rhaid i swyddog-aelod hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.
(6) Pan fo hysbysiad wedi'i roi'n unol â pharagraff (4), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud y person hwnnw o'r swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.
(7) Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion fod swyddog-aelod wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caniateir iddynt symud y person hwnnw o'r swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.
(8) Pan fo swyddog-aelod wedi'i symud o'i swydd yn unol â pharagraffau (6) a (7), rhaid i'r cadeirydd hysbysu Gweinidogion Cymru o hynny ar unwaith.
(9) Os bydd person sy'n swyddog-aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod y Bwrdd am gyfnod o chwe mis neu fwy, rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion symud y person hwnnw o'r swydd oni chânt eu bodloni—
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol mewn cyfryw gyfarfodydd ac o fewn unrhyw gyfnod y bydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn credu sy'n rhesymol.
9.—(1) Cyn penderfynu a ddylid symud person o swydd yn unol â rheoliad 8, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion, os byddant yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro ddeiliadaeth swydd swyddog-aelod am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
(2) Pan fo swyddog-aelod wedi'i atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion hysbysu'r aelod hwnnw a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff swyddog-aelod y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi'i hatal dros dro gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r Bwrdd.
10.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—
(a)yn gadeirydd;
(b)yn is-gadeirydd;
(c)yn aelod nad yw'n swyddog;
(ch)yn aelod cyswllt sy'n cael ei benodi gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4(3).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru symud person o swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu —
(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae'r Bwrdd yn gweithredu ar ei chyfer; neu
(b)nad yw'n gydnaws â rheoli Bwrdd yn dda,
i'r person hwnnw barhau i ddal swydd.
(3) Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod person a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Atodlen 2 neu wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caiff Gweinidogion Cymru ei symud o'r swydd honno.
(4) Rhaid i berson a benodir hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.
(5) Os yw person a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfod y Bwrdd am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru ei symud o'r swydd honno oni chânt eu bodloni —
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol yn y cyfryw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.
(6) Caiff person ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd fel aelod neu aelod cyswllt drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru ac i'r Bwrdd ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.
11.—(1) Cyn gwneud penderfyniad i symud person o swydd o dan reoliad 10, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ei ddeiliadaeth swydd am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
(2) Pan fo aelod wedi'i atal dros dro yn unol â pharagraff (1), bydd Weinidogion Cymru'n hysbysu'r aelod hwnnw ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi'i atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod.
12.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i aelodau cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 4(4).
(2) Caiff y Bwrdd symud person o swydd ar unwaith os yw'n penderfynu —
(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae'r Bwrdd yn gweithredu ar ei chyfer; neu
(b)nad yw'n gydnaws â rheoli Bwrdd yn dda,
i berson barhau i ddal swydd.
(3) Os daw i sylw'r Bwrdd fod person a benodwyd wedi dod yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2 neu wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17, caiff y Bwrdd ei symud o'r swydd honno.
(4) Rhaid i berson a benodir hysbysu'r Bwrdd ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Atodlen 2.
(5) Os yw'n ofynnol i berson a benodwyd yn aelod cyswllt fod yn bresennol mewn un o gyfarfodydd y Bwrdd ond ei fod wedi methu â gwneud hynny am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff y Bwrdd symud y person hwnnw o'r swydd honno oni chaiff ei fodloni —
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol yn y cyfryw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd y Bwrdd yn credu sy'n rhesymol.
(6) Caiff unrhyw aelod ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd fel aelod cyswllt drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru ac i'r Bwrdd ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: