Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009

Dirymu

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu —

(a)Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003(1);

(b)Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007(2).

(2O ran y Byrddau a restrir yn Atodlen 2 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009(3)

(a)mae'r Rheoliadau ym mharagraff (1) wedi'u dirymu ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;

(b)ac eithrio'r rheoliad hwn, nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys.

(3O ran Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), caiff y Rheoliadau ym mharagraff (1) eu dirymu ar ddiwedd y cyfnod cysgodol;

(b)bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys ar ddiwedd y cyfnod cysgodol ac eithrio'r ffaith y byddant yn gymwys at ddibenion penodiadau o dan reoliad 20 ac ar gyfer y rheoliad hwn o ddechrau'r cyfnod cysgodol.