ATODLEN 2Y MEINI PRAWF CYMHWYSTRA AR GYFER AELODAU AC AELODAU CYSWLLT
RHAN 1Gofynion cyffredinol
1
1
Mae Rhan 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra aelodau ac aelodau cyswllt i gael eu penodi.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt os yw —
a
yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi'i gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi'i hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;
b
yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim i gyfyngu methdaliad neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;
c
wedi'i ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd;
ch
os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi'i therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben;
3
At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall ohonynt, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.
4
At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod yn aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.
5
Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)( b) —
a
os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar ddyddiad y diddymiad;
b
os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar ddyddiad y rhyddhau;
c
os telir dyledion y person yn llawn ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac
ch
os bydd y person, ar ôl iddo wneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r drefniant.
6
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oblegid paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.
7
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.
8
Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(ch), bydd yn anghymwys i gael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyswllt ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan yr awdurdod ac a barodd i'r aelodaeth gael ei therfynu, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan fo cais wedi'i wneud iddynt gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.
RHAN 2Y Gofynion o ran Cymhwystra ar gyfer Cadeiryddion, Is-gadeiryddion ac Aelodau nad ydynt yn Swyddogion
2
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person yn anghymwys i fod yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog os yw'r person hwnnw yn cael, neu wedi cael yn y flwyddyn flaenorol, ei gyflogi am dâl gan unrhyw un o'r Byrddau Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn.
a
Bwrdd Iechyd Lleol a restrir yn Atodlen 2 neu Atodlen 3 i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 20009 os yw, neu os oedd, o fewn ardal y Bwrdd;
b
Ymddiriedolaeth GIG a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diddymu) (Cymru) 200910 os yw, neu os oedd, o fewn ardal y Bwrdd;
c
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre11; neu
ch
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru12.
2
Nid yw person yn anghymwys o dan baragraff (1) os penodir y person hwnnw yn —
a
aelod undeb llafur yn unol â rheoliad 3(4)(c); neu
b
aelod prifysgol yn unol â rheoliad 3(4)(ch).
3
At ddibenion paragraff (1), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi'i gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog o Fwrdd Iechyd Lleol neu swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol Ymddiriedolaeth GIG.
RHAN 3Y Meini Prawf ynghylch Cymhwystra ar gyfer Categorïau Penodol o Aelod
Swyddog meddygol3
Swyddog nyrsio4
I fod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog nyrsio yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi'i gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth15.
Swyddog iechyd y cyhoedd5
I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd o dan reoliad 3(2)(e) rhaid i'r person fod wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol uwch mewn iechyd y cyhoedd neu ddisgyblaeth gysylltiedig a bod wedi'i restru yng Nghofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Rhestr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol16 neu Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU17.
Swyddog Therapïau a Gwyddor Iechyd6
I fod yn gymwys i gael ei benodi yn aelod a benodir o dan reoliad 3(2)(ff), rhaid i berson gael ei gynnwys yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd18.
Aelod Awdurdod Lleol7
I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(a), rhaid i'r person fod yn aelod etholedig o awdurdod lleol y mae ei ardal o fewn ardal y Bwrdd.
Aelod Sefydliad Gwirfoddol8
I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(b), rhaid i'r person fod yn gyflogai sefydliad gwirfoddol sy'n weithredu o fewn ardal y Bwrdd neu'n aelod ohono.
Aelod Undeb Llafur9
I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(c), rhaid i'r person fod—
a
yn berson sy'n cael ei gyflogi gan y Bwrdd; a
b
yn aelod o undeb llafur sy'n cael ei gydnabod gan y Bwrdd mewn perthynas â materion cyflogi.