Search Legislation

Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Y Meini Prawf ynghylch Cymhwystra ar gyfer Categorïau Penodol o Aelod

Swyddog meddygol

3.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi'i restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol y Cyngor Meddygol Cyffredinol(1) neu'r Gofrestr Arbenigwyr(2).

Swyddog nyrsio

4.  I fod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog nyrsio yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi'i gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(3).

Swyddog iechyd y cyhoedd

5.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n swyddog sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd o dan reoliad 3(2)(e) rhaid i'r person fod wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol uwch mewn iechyd y cyhoedd neu ddisgyblaeth gysylltiedig a bod wedi'i restru yng Nghofrestr Arbenigwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol, Rhestr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol(4) neu Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU(5).

Swyddog Therapïau a Gwyddor Iechyd

6.  I fod yn gymwys i gael ei benodi yn aelod a benodir o dan reoliad 3(2)(ff), rhaid i berson gael ei gynnwys yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd(6).

Aelod Awdurdod Lleol

7.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(a), rhaid i'r person fod yn aelod etholedig o awdurdod lleol y mae ei ardal o fewn ardal y Bwrdd.

Aelod Sefydliad Gwirfoddol

8.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(b), rhaid i'r person fod yn gyflogai sefydliad gwirfoddol sy'n weithredu o fewn ardal y Bwrdd neu'n aelod ohono.

Aelod Undeb Llafur

9.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n aelod sy'n cael ei benodi o dan reoliad 3(4)(c), rhaid i'r person fod—

(a)yn berson sy'n cael ei gyflogi gan y Bwrdd; a

(b)yn aelod o undeb llafur sy'n cael ei gydnabod gan y Bwrdd mewn perthynas â materion cyflogi.

(1)

Cedwir y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 10 o Orchymyn Ymarfer Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(2)

Cedwir y Gofrestr Arbenigwyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 13 o Orchymyn Ymarfer Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(3)

Cedwir cofrestr gan Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2002 (O.S. 2002/253).

(4)

Mae'r Rhestr o Arbenigwyr mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol wedi'i rhagnodi gan Reoliadau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (Rhestr Arbenigwyr) 2008 a wneud gan y Cyngor o dan adrannau 26 a 52 o Ddeddf Deintyddol 1984 (p.24).

(5)

Cedwir Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU gan y Public Health Register, cwmni cyfyngedig drwy warant a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr o dan rif gofrestru 4776439.

(6)

Cedwir cofrestr gan Gyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (O.S. 2002/254).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources