Gwybodaeth berthnasol am gymhwystra
12.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo unigolyn yn cael ei asesu ac nad yr un person yw'r asesydd cymhwystra a'r asesydd lles pennaf.
(2) Rhaid i'r asesydd cymhwystra ofyn i'r asesydd lles pennaf ddarparu iddo unrhyw wybodaeth berthnasol am gymhwystra a all fod ym meddiant yr asesydd lles pennaf.
(3) Rhaid i'r asesydd lles pennaf gydymffurfio ag unrhyw gais a wneir o dan y rheoliad hwn.