xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Cymhwystra i gynnal asesiadau

Cymhwystra — cyffredinol

3.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion ychwanegol yn rheoliadau 4 i 8 nid yw person yn gymwys i wneud asesiad, ac eithrio asesiad oedran, ond pan fo'r corff goruchwylio wedi'i fodloni fod y person hwnnw—

(a)wedi'i yswirio mewn perthynas ag unrhyw atebolrwydd a ddichon godi mewn cysylltiad â gwneud yr asesiad; a

(b)yn meddu ar y sgiliau a'r profiad perthnasol ar gyfer yr asesiad y mae i'w wneud, sy'n gorfod cynnwys y sgiliau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—

(i)y gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda golwg ar ganfod nodweddion a phriodweddau person sy'n berthnasol i anghenion y person hwnnw, a

(ii)y gallu i weithredu'n annibynnol ar unrhyw berson sy'n ei benodi i wneud asesiad ac ar unrhyw berson sy'n darparu gofal neu driniaeth i'r person y mae i'w asesu.

(2Rhaid i'r corff goruchwylio fod wedi'i fodloni bod yna mewn perthynas â'r person—

(a)tystysgrif cofnod troseddol fanwl wedi'i dyroddi o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(1); neu

(b)os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol amdano yn un a ragnodir o dan adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno(2).

(1)

1997 p.50. Mewnosodwyd adran 113B gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.15).

(2)

Mewnosodwyd adran 113A gan adran 163(2) o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005.