2009 Rhif 793 (Cy.71)
Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at y Rheoliadau canlynol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd:
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (y Rheoliad Sengl CMO); a
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau deor a chywion dofednod buarth fferm.
I'r graddau y gwneir y Rheoliadau hyn wrth arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 19903, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A)4 o'r Ddeddf honno.
Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod paratoi'r Rheoliadau canlynol yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor5 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Yn unol â hyn, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A6 o Atodlen 2 iddi; ac adrannau 6(4)7, 16(1)8, 179, 26(2) a (3)10 a 48(1)11 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru12.