- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
4. Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â hi.
5.—(1) Dynodir Gweinidogion Cymru yn awdurdod cymwys at ddiben Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 (cofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio eraill a deorfeydd).
(2) Os gwneir cais i Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008, rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd o fewn 28 o ddiwrnodau o'r materion a bennir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r materion—
(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;
(b)y rhesymau dros wrthod caniatáu'r cais; ac
(c)yn achos gwrthod caniatáu'r cais, yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 18.
(4) Os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y dylid caniatáu cais, cânt (yn lle gwrthod y cais) hysbysu'r ceisydd o'r rheswm dros hyn, ac—
(a)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon bod digon o ddata wedi ei ddarparu i gefnogi'r cais, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu rhagor o ddata;
(b)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y cydymffurfir ar ôl cofrestru'r sefydliad hwnnw â'r holl ddarpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2 ac sy'n berthnasol i'r math o sefydliad sydd i'w gofrestru, cânt ofyn i'r ceisydd gymryd camau i sicrhau y cydymffurfir â'r darpariaethau hynny; ac
(c)caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i'r ceisydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r cais.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu tynnu'n ôl gofrestriad sefydliad bridio pedigri, sefydliad bridio arall neu ddeorfa oherwydd i'r sefydliad neu'r ddeorfa fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2, neu iddo neu iddi fethu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth honno, rhaid iddynt, o fewn 28 o ddiwrnodau, hysbysu'r person sy'n rhedeg busnes yn y sefydliad o dan sylw (“y gweithredydd”) o'r materion a bennir ym mharagraff (6).
(6) Dyma'r materion—
(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru i dynnu'n ôl y cofrestriad;
(b)y dyddiad y mae tynnu'n ôl y cofrestriad i fod yn effeithiol;
(c)y rhesymau dros dynnu'n ôl y cofrestriad; ac
(ch)yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 18.
(7) Os bydd Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl gofrestriad sefydliad bridio pedigri, sefydliad bridio arall neu ddeorfa oherwydd i'r sefydliad neu'r ddeorfa fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu iddo neu iddi fethu â chydymffurfio â hi, (yn lle tynnu'n ôl y cofrestriad) cânt hysbysu'r gweithredydd eu bod â'u bryd ar dynnu'n ôl y cofrestriad, a rhoi iddo'r rhesymau dros wneud hyn, ac—
(a)os bydd y sefydliad neu'r ddeorfa'n parhau i fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2, neu'n parhau i fethu â chydymffurfio â'r cyfryw ddarpariaeth, cânt ofyn i'r gweithredydd gymryd camau i sicrhau y cydymffurfir â'r ddarpariaeth honno; a
(b)cânt roi cyfle i'r gweithredydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r mater.
(8) Os yw Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad i geisydd o dan baragraff (4), neu i weithredydd o dan baragraff (7), rhaid i Weinidogion Cymru bennu yn yr hysbysiad derfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid i unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd.
(9) Caniateir i unrhyw derfyn amser a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn gael ei estyn ar un achlysur neu ar fwy nag un.
(10) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig.
(11) At ddibenion cyfrifo terfyn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a bennir ym mharagraff (2), bydd y cloc yn cael ei stopio yn ystod unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei roi i geisydd i gymryd unrhyw gamau a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (4).
6. Caniateir i wyau deor gael eu marcio mewn dull gwahanol i'r dull a bennir yn Erthygl 3(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 os bydd marcio'r wyau—
(a)mewn du, yn annileadwy, i'w weld yn glir ac yn o leiaf 10mm2 ei arwynebedd; a
(b)yn cael ei wneud cyn iddynt gael eu rhoi yn y deorydd, naill ai yn y sefydliad cynhyrchu neu mewn deorfa.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: