xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 821 (Cy.72)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Derbyn Plant sy'n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009

Gwnaed

31 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Ebrill 2009

Yn dod i rym

22 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 89(8), 97D ac adran 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Derbyn Plant sy'n Derbyn Gofal) (Cymru) 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw rheoliadau 7, 8 a 9 i rym ar 22 Ebrill 2009.

(4Daw gweddill y Rheoliadau i rym ar 22 Ebrill 2009 ac mewn perthynas â threfniadau derbyn y mae disgyblion i gael eu derbyn oddi tanynt i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn y flwyddyn ysgol 2010/2011 ac unrhyw flwyddyn ysgol ddilynol.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod derbyn ar gyfer ysgol yn rhoi blaenoriaeth yn ei feini prawf gordanysgrifio i blentyn perthnasol sy'n derbyn gofal yn gyfeiriad at yr awdurdod yn rhoi blaenoriaeth i blentyn o'r fath wrth benderfynu ar ei drefniadau derbyn cyn dechrau pob blwyddyn ysgol yn unol ag adran 89(1) o Ddeddf 1998.

Camau i'w cymryd gan awdurdod derbyn i roi blaenoriaeth yn ei drefniadau derbyn i blant sy'n derbyn gofal

3.  Ac eithrio pan fo rheoliadau 4, 5 neu 6 yn gymwys, rhaid i awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir roi'r flaenoriaeth gyntaf yn ei feini prawf gordanysgrifio i bob plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal.

Ysgolion a ddynodwyd yn rhai â chymeriad crefyddol

4.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru yn ysgol â chymeriad crefyddol, yn unol ag adran 69(3) o Ddeddf 1998.

(2Caiff yr awdurdod derbyn roi'r flaenoriaeth gyntaf yn ei feini prawf gordanysgrifio i bob plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal, p'un a yw'r plentyn hwnnw yn dilyn yr un ffydd â honno sy'n gymwys i'r ysgol yn unol â'i dynodiad, ai peidio, a rhaid i'r awdurdod, beth bynnag—

(a)rhoi'r flaenoriaeth gyntaf i bob plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal ac sy'n dilyn y ffydd honno dros bob plentyn arall sy'n dilyn y ffydd honno; a

(b)rhoi blaenoriaeth uwch i bob plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal ac nad yw'n dilyn y ffydd honno nag a roddir i bob plentyn arall nad yw'n dilyn y ffydd honno.

Ysgolion lle mae trefniadau eisoes yn bod ar gyfer dewis

5.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a wnaeth ddarpariaeth yn ei threfniadau derbyn, ar ddechrau blwyddyn ysgol 1997-1998, ar gyfer dewis ar sail gallu neu ddoniau ac sydd ar bob adeg ers y dyddiad hwnnw wedi parhau i wneud hynny, yn unol ag adran 100(1) o Ddeddf 1998.

(2Mae'n rhaid i'r awdurdod derbyn roi'r flaenoriaeth gyntaf yn ei feini prawf gordanysgrifio i bob plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal ac a gafodd ei ddewis i'w dderbyn ar sail ei allu neu ei ddoniau dros bob plentyn arall a gafodd ei ddewis i'w dderbyn ar sail ei allu neu ei ddoniau.

(3Os yw awdurdod derbyn wedi dyfarnu lleoedd yn unol â pharagraff (2), rhoddir blaenoriaeth uwch yn y meini prawf gordanysgrifio i bob plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal ac na ddyfarnwyd iddo le ar sail ei allu neu ei ddoniau nag a roddir i bob plentyn arall na ddyfarnwyd iddo le ar sail ei allu neu ei ddoniau.

Ysgolion sy'n dewis drwy fandio disgyblion

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod derbyn ar gyfer ysgol sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer dewis ar sail gallu i'r graddau bod y trefniadau wedi eu llunio i sicrhau bod cynrychiolaeth gyfartal o bob lefel o allu ymhlith ymgeiswyr, yn unol ag adran 101(1) o Ddeddf 1998.

(2Rhaid i'r awdurdod derbyn roi'r flaenoriaeth gyntaf yn ei feini prawf gordanysgrifio i blentyn perthnasol sy'n derbyn gofal o fewn pob band dros blentyn arall sy'n gymwys am le ysgol o fewn y band hwnnw.

Amrywio trefniadau derbyn sydd eisoes wedi eu penderfynu ar gyfer y flwyddyn ysgol 2010/2011

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdodau derbyn sydd eisoes wedi penderfynu beth yw eu trefniadau derbyn yn unol ag adran 89(4) o Ddeddf 1998 mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2010/2011.

(2Os bydd ar awdurdod derbyn angen amrywio ei drefniadau derbyn er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn caiff eu hamrywio heb fod angen iddo gyfeirio'r amrywiad arfaethedig at Weinidogion Cymru yn unol ag adran 89(5) o Ddeddf 1998.

Derbyn plant perthnasol sy'n derbyn gofal i ysgol a gynhelir yng Nghymru y tu allan i'r cylch derbyn arferol

8.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae'r rheoliad hwn yn gymwys os cafodd cais ei wneud, y tu allan i'r cylch derbyn arferol, i awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir yng Nghymru, gan awdurdod lleol yng Nghymru, mewn perthynas â derbyn plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal.

(2Mae'n rhaid i'r awdurdod derbyn y gwnaed y cais iddo dderbyn y plentyn.

(3Ni chaiff yr awdurdod lleol wneud cais o dan y rheoliad hwn i ysgol y mae'r plentyn wedi ei wahardd yn barhaol ohoni.

(4Cyn gwneud cais rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol yn y modd a ragnodir yn y cod ar gyfer derbyn i ysgolion.

(5O fewn cyfnod o 7 niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y daeth y ffurflen gais i law, caiff yr awdurdod derbyn gyfeirio'r mater, yn y modd a ragnodir gan gyflenwi'r wybodaeth yn y modd a allai gael ei ragnodi yn y cod ar gyfer derbyn i ysgolion, at Weinidogion Cymru i'w benderfynu.

(6Ni cheir cyfeirio mater o dan baragraff (5) ond ar y sail y byddai derbyn y plentyn i'r ysgol yn rhagfarnu'n sylweddol yn erbyn darparu addysg effeithiol neu ddefnyddio adnoddau'n effeithiol.

Derbyn plant perthnasol sy'n derbyn gofal y mae adran 87 o Ddeddf 1998 yn gymwys iddynt (derbyn disgyblion a waharddwyd ddwywaith)

9.—(1Nid yw adran 95(2) o Ddeddf 1998 yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniad a wnaed gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru neu ar ran awdurdod o'r fath i dderbyn plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal i ysgol.

(2Mae'n rhaid i'r awdurdod addysg lleol yng Nghymru ymgynghori, yn y modd a ragnodir yn y cod ar gyfer derbyn i ysgolion, â chorff llywodraethu unrhyw ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yng Nghymru cyn gwneud cais ar ran plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal ac y mae adran 87 o Ddeddf 1998 yn gymwys iddo am iddo gael ei dderbyn.

(3Caiff y corff llywodraethu, o fewn cyfnod o 7 niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y daeth y ffurflen gais i law, gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru yn y modd a ragnodir gan gyflenwi'r wybodaeth yn y modd a allai gael ei ragnodi yn y cod ar gyfer derbyn i ysgolion.

(4Ni cheir cyfeirio mater o dan baragraff (3) ond ar y sail y byddai derbyn y plentyn i'r ysgol yn rhagfarnu'n sylweddol yn erbyn darparu addysg effeithiol neu ddefnyddio adnoddau'n effeithiol.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

31 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r camau sydd i'w cymryd a'r amgylchiadau pan fo raid i awdurdod derbyn ar gyfer ysgol a gynhelir roi blaenoriaeth yn eu trefniadau derbyn i “blentyn perthnasol sy'n derbyn gofal” (plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989 ar adeg gwneud ei gais ac a fydd yn dal i dderbyn gofal yn y ffordd honno ar yr adeg pan gaiff ei dderbyn i'r ysgol).

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau derbyn roi blaenoriaeth yn eu meini prawf gordanysgrifio i blant perthnasol sy'n derbyn gofal, yn ddarostyngedig i'r eithriadau yn rheoliadau 4, 5 a 6.

Mae rheoliad 4 yn caniatáu i awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion a ddynodwyd yn rhai â chymeriad crefyddol roi'r flaenoriaeth gyntaf yn eu meini prawf gordanysgrifio i bob plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal, heb ystyried ei ffydd. Mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol iddynt, beth bynnag, roi blaenoriaeth uwch i blant perthnasol sy'n derbyn gofal ac sy'n dilyn ffydd yr ysgol, nag a roddir i blant eraill sy'n dilyn y ffydd honno, ac i roi blaenoriaeth uwch i blant perthnasol sy'n derbyn gofal ac nad ydynt yn dilyn y ffydd honno nag a roddir i blant eraill nad ydynt yn dilyn y ffydd honno.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion sydd wedi gwneud darpariaeth yn eu trefniadau derbyn ar gyfer dewis ar sail gallu neu ddoniau ers dechrau blwyddyn ysgol 1997-1998 roi blaenoriaeth i blant perthnasol sy'n derbyn gofal ac a gafodd eu dewis ar sail eu gallu neu eu doniau dros blant eraill a gafodd eu dewis ar sail eu gallu neu eu doniau. Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i blant perthnasol sy'n derbyn gofal ac na ddyfarnwyd iddynt le ar sail eu gallu neu eu doniau dros blant eraill na ddyfarnwyd iddynt le ar y sail honno.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer dewis drwy fandio roi blaenoriaeth i blant perthnasol sy'n derbyn gofal o fewn pob band.

Mae rheoliad 7 yn caniatáu i awdurdod derbyn, er mwyn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, amrywio'r trefniadau derbyn sydd eisoes wedi eu penderfynu mewn cysylltiad â'r flwyddyn ysgol 2010/2011 heb fod angen cyfeirio'r amrywiad arfaethedig at Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau derbyn ysgolion a gynhelir yng Nghymru dderbyn plentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yng Nghymru. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r awdurdod derbyn. Caiff awdurdod derbyn gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru o fewn 7 niwrnod pe byddai derbyn y plentyn yn rhagfarnu'n sylweddol yn erbyn defnyddio addysg yn effeithiol neu ddefnyddio adnoddau'n effeithiol. Mae'r modd y mae'r awdurdod lleol i ymgynghori, a'r modd y mae'r awdurdod derbyn i gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru, a'r wybodaeth y gallai fod ei hangen, i'w rhagnodi yn y cod ar gyfer derbyn i ysgolion.

Mae rheoliad 9 yn datgymhwyso adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 mewn perthynas â phlant perthnasol sy'n derbyn gofal. Mae adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol, fel yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir, i alluogi corff llywodraethu'r ysgol i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad a wneir gan yr awdurdod neu ar ei ran i dderbyn i'r ysgol ddisgybl a gafodd ei wahardd ddwywaith. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r corff llywodraethu. Caiff corff llywodraethu gyfeirio mater at Weinidogion Cymru o fewn 7 niwrnod pe byddai derbyn y plentyn yn rhagfarnu'n sylweddol yn erbyn defnyddio addysg yn effeithiol neu ddefnyddio adnoddau'n effeithiol. Mae'r modd y mae'r awdurdod addysg lleol i ymgynghori, a'r modd y mae'r corff llywodraethu i gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru, a'r wybodaeth y gallai fod ei hangen, i'w rhagnodi yn y cod ar gyfer derbyn i ysgolion.

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).