- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Nid yw adran 95(2) o Ddeddf 1998 yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniad a wnaed gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru neu ar ran awdurdod o'r fath i dderbyn plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal i ysgol.
(2) Mae'n rhaid i'r awdurdod addysg lleol yng Nghymru ymgynghori, yn y modd a ragnodir yn y cod ar gyfer derbyn i ysgolion, â chorff llywodraethu unrhyw ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yng Nghymru cyn gwneud cais ar ran plentyn perthnasol sy'n derbyn gofal ac y mae adran 87 o Ddeddf 1998 yn gymwys iddo am iddo gael ei dderbyn.
(3) Caiff y corff llywodraethu, o fewn cyfnod o 7 niwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod y daeth y ffurflen gais i law, gyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru yn y modd a ragnodir gan gyflenwi'r wybodaeth yn y modd a allai gael ei ragnodi yn y cod ar gyfer derbyn i ysgolion.
(4) Ni cheir cyfeirio mater o dan baragraff (3) ond ar y sail y byddai derbyn y plentyn i'r ysgol yn rhagfarnu'n sylweddol yn erbyn darparu addysg effeithiol neu ddefnyddio adnoddau'n effeithiol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: