2009 Rhif 995 (Cy.81)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r offerynnau Cymunedol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a'r ardaloedd a bennir yn rheoliad 6.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

DehongliI22

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adnoddyn naturiol” (“natural resource”) yw—

    1. a

      rhywogaethau a warchodir;

    2. b

      cynefinoedd naturiol;

    3. c

      rhywogaethau neu gynefinoedd ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yr hysbyswyd o'r safle o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19813;

    4. ch

      dŵr; a

    5. d

      tir;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20064;

  • ystyr “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yw—

    1. a

      cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar warchod adar gwyllt, neu Atodiad I iddi5 neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt6;

    2. b

      y cynefinoedd naturiol a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC; ac

    3. c

      safleoedd bridio neu orffwysfannau'r rhywogaethau a restrir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;

  • ystyr “dŵr daear” (“groundwater”) yw'r holl ddŵr sydd o dan wyneb y ddaear yn y parth dirlawnder ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r ddaear neu'r isbridd;

  • ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw'r swyddogaethau a gyflawnir gan adnoddyn naturiol er budd adnoddyn naturiol arall neu'r cyhoedd;

  • ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw unrhyw weithgaredd economaidd, p'un ai'n gyhoeddus neu'n breifat a ph'un a yw'n cael ei gyflawni er elw ai peidio;

  • ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy'n gweithredu neu'n rheoli gweithgaredd, deiliad trwydded neu awdurdodiad sy'n ymwneud â'r gweithgaredd hwnnw neu'r person sy'n cofrestru gweithgaredd o'r fath neu'n hysbysu ohono;

  • ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw'r rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC neu a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC.

2

Onid ydynt wedi'u diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal a chywiro difrod amgylcheddol7 yr un ystyr â'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

3

Mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol a'u rhoi ar y farchnad, mae “gweithredwr” (“operator”) a “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”) yn cynnwys—

a

deiliad cydsyniad perthnasol a ddyroddwyd o dan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig8;

b

deiliad cydsyniad perthnasol ar gyfer gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 19909; neu

c

deiliad awdurdodiad perthnasol a ddyroddwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig10.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Cyfeiriadau at offerynnau CymunedolI33

Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau Cymunedol yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Ystyr “difrod amgylcheddol”I44

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag atal difrod amgylcheddol ac adfer i gywiro'r difrod hwnnw; ac mae “difrod amgylcheddol” (“environmental damage”) yn ddifrod i'r canlynol—

a

rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig,

b

dŵr wyneb neu ddŵr daear, neu

c

tir,

fel a bennir yn y rheoliad hwn.

2

Mae difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn golygu difrod o fath a bennir yn Atodlen 1.

3

Mae difrod amgylcheddol i ddŵr wyneb yn golygu difrod i grynofa dŵr wyneb sydd wedi'i dosbarthu fel y cyfryw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr11 fel bod—

a

elfen ansawdd biolegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,

b

lefel cemegyn a restrir yn y ddeddfwriaeth yn Atodiad IX neu gemegyn sydd wedi'i restru yn Atodiad X i'r Gyfarwyddeb honno, neu

c

elfen ansawdd ffisiogemegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,

yn newid digon i leihau statws y grynofa ddŵr yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (p'un a yw'r grynofa ddŵr wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).

4

Mae difrod amgylcheddol i ddŵr daear yn golygu unrhyw ddifrod i grynofa dŵr daear fel bod ei ddargludedd, lefel neu grynodiad y llygryddion yn newid digon i leihau ei statws yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (ac ar gyfer llygryddion Cyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad12) (p'un a yw'r grynofa dŵr daear wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).

5

Mae difrod amgylcheddol i dir yn golygu halogi tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy'n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Difrod amgylcheddol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddoI55

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â difrod amgylcheddol os yw wedi'i achosi gan weithgaredd yn Atodlen 2.

2

Yn achos difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae'r Rheoliadau yn gymwys hefyd o ran difrod amgylcheddol a achosir gan unrhyw weithgaredd arall os oedd y gweithredwr—

a

yn bwriadu achosi difrod amgylcheddol; neu

b

yn esgeulus ynghylch a fyddai difrod amgylcheddol yn cael ei achosi.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Yr ardaloedd lle'r mae'r Rheoliadau hyn yn gymwysI66

1

Rhaid i'r difrod fod mewn ardal a bennir yn y tabl canlynol—

Y math o ddifrod

Yr ardal lle mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys

Difrod i ddŵr

Cymru a'r holl ddyfroedd hyd at un filltir fôr tua'r môr o'r gwaelodlin yng Nghymru

Difrod mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig

Cymru

Difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol

Cymru

Difrod i dir

Cymru

2

Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwaelodlin” (“the baseline”) yw'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 198713

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Deddfwriaeth arallI77

1

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn lleihau effaith unrhyw ddeddfiad arall ynghylch difrod i'r amgylchedd.

2

Nid ydynt yn lleihau hawl gweithredwr i gyfyngu atebolrwydd yn unol â Chonfensiwn ar Gyfyngu Atebolrwydd am Hawliadau Morol 197614.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

EsemptiadauI88

1

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

a

difrod a ddigwyddodd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

b

difrod sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, neu y mae bygythiad y bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond bod y difrod hwnnw wedi'i achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw; neu

c

difrod sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw os yw'n deillio o weithgaredd a ddigwyddodd ac a ddaeth i ben cyn y dyddiad hwnnw.

2

Nid ydynt yn gymwys o ran difrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan—

a

gweithred frawychiaeth;

b

ffenomenon naturiol eithriadol, ar yr amod bod gweithredwr y gweithgaredd o dan sylw wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i ddiogelu rhag bod difrod yn cael ei achosi gan achlysur o'r fath;

c

gweithgareddau a'u hunig bwrpas yw diogelu rhag trychinebau naturiol;

ch

digwyddiad y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas—

i

Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew;

ii

Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Sefydlu Cronfa Ryngwladol ar gyfer Iawndal am Ddifrod drwy Lygredd Olew15; neu

iii

Confensiwn Rhyngwladol ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew Byncer 200116;

d

gweithgareddau a'u prif bwrpas yw gwasanaethu dibenion amddiffyn gwladol neu ddiogelwch rhyngwladol;

dd

ymbelydredd o weithgaredd y mae'r Cytuniad a sefydlodd Gymuned Ynni Atomig Ewrop yn ei gwmpasu neu ymbelydredd a achoswyd gan ddigwyddiad neu weithgaredd y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas Confensiwn Paris dyddiedig 29 Gorffennaf 1960 ar Atebolrwydd Trydydd Partïon ym Maes Ynni Niwclear a Chonfensiwn Atodol Brwsel dyddiedig 31 Ionawr 1963; neu

e

difrod a achoswyd wrth ymgymryd â physgota môr masnachol os cydymffurfiwyd â phob deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pysgota hwnnw.

3

Dim ond os yw'n bosibl cadarnhau cysylltiad achosol rhwng y difrod a gweithgareddau penodol y maent yn gymwys i ddifrod amgylcheddol a achoswyd gan lygredd gwasgarog ei natur.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Esemptiad rhag difrod i ddŵrI99

1

Nid yw difrod i ddŵr yn cynnwys—

a

difrod a achosir gan addasiadau newydd i nodweddion ffisegol crynofa dŵr wyneb,

b

newid i lefel crynofa dŵr daear yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, neu

c

dirywio o statws uchel i statws da crynofa dŵr wyneb sy'n ganlyniad i weithgareddau newydd o ran datblygiadau dynol cynaliadwy yn unol â'r Gyfarwyddeb honno,

os caiff pob amod ym mharagraff (2) ei gyflawni.

2

Yr amodau yw—

a

bod pob cam ymarferol yn cael ei gymryd i leddfu ar yr effaith andwyol ar statws y grynofa ddŵr;

b

bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau wedi'u gosod a'u hesbonio yn benodol yn y cynllun rheoli basn afon sy'n ofynnol o dan Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a bod yr amcanion yn cael eu hadolygu bob chwe mlynedd;

c

bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau o ddiddordeb cyhoeddus hollbwysig, neu fod manteision yr addasiadau newydd neu'r newidiadau newydd i iechyd dynol, i waith cadw pobl yn ddiogel neu i ddatblygu cynaliadwy yn drech na chanlyniad y difrod; ac

ch

nad oes modd i'r amcanion buddiol, y mae'r addasiadau neu'r newidiadau hynny i'r grynofa ddŵr yn gyfrwng i'w cyflawni, gael eu sicrhau drwy ddulliau eraill oherwydd dichonolrwydd technegol neu gostau anghymesur.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007I1010

1

Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn os bydd y difrod wedi'i achosi gan weithfa, gweithred wastraff neu offer symudol y mae trwydded neu gofrestriad yn ofynnol ar ei chyfer neu ar eu cyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 200717.

2

Os Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am roi'r drwydded, caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd ym mhob achos.

3

Os yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am roi'r drwydded—

a

gorfodir Rhan 2 gan yr awdurdod lleol;

b

gorfodir Rhan 3 gan—

i

yr awdurdod lleol os yw'r difrod yn ddifrod i dir;

ii

Asiantaeth yr Amgylchedd os yw'r difrod yn ddifrod i ddŵr;

iii

Cyngor Cefn Gwlad Cymru os yw'r difrod yn ddifrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraillI1111

1

Os yw'r difrod wedi'i achosi gan weithgaredd nad yw'n ofynnol cael trwydded neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007, gorfodir y Rheoliadau hyn yn unol â'r tabl canlynol.

Y math o ddifrod amgylcheddol

Man y difrod

Yr awdurdod gorfodi

Difrod i ddŵr—

Asiantaeth yr Amgylchedd

Difrod i r ywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig—

tir

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

dŵr ond nid yn y môr(1)

Asiantaeth yr Amgylchedd

y môr

— os yw'r difrod oherwydd gweithgaredd a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth yr Amgylchedd;

— fel arall, Gweinidogion Cymru

Niwed i dir—

Yr awdurdod lleol

1

Mae “môr” yn cynnwys—

a

unrhyw fan sydd dan y dŵr adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw; a

b

pob un o'r canlynol, i'r graddau y mae'r llanw'n llifo adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw—

i

pob aber neu forgainc; a

ii

dyfroedd unrhyw sianel, cilfach, bae neu afon.

2

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol eu natur i awdurdod gorfodi ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

3

Rhaid i awdurdod gorfodi gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

GorfodiI1212

1

Os oes mwy nag un math o ddifrod, fel bod mwy nag un awdurdod gorfodi, gorfodir y Rheoliadau hyn gan unrhyw un neu gan bob un o'r awdurdodau gorfodi penodedig.

2

Caiff awdurdod gorfodi ymrwymo i drefniant gydag unrhyw awdurdod gorfodi arall i weithredu ar ei ran.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2Atal difrod amgylcheddol

Atal difrod amgylcheddolI1313

1

Rhaid i weithredwr gweithgaredd sy'n peri bod bygythiad agos o ddifrod amgylcheddol, neu fygythiad agos o ddifrod y mae seiliau rhesymol dros gredu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod amgylcheddol, wneud y canlynol ar unwaith—

a

cymryd pob cam ymarferol i atal y difrod; a

b

(onid yw'r bygythiad wedi'i ddileu) hysbysu'r awdurdod gorfodi y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol o'r holl fanylion perthnasol.

2

Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—

a

yn disgrifio'r bygythiad;

b

yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal y difrod; ac

c

yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

3

Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 13 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Atal difrod amgylcheddol pellachI1414

1

Rhaid i weithredwr gweithgaredd sydd wedi achosi difrod amgylcheddol, neu sydd wedi achosi difrod pan fo seiliau rhesymol dros gredu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol neu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod o'r fath, wneud y canlynol ar unwaith—

a

cymryd pob cam ymarferol i atal difrod pellach; a

b

hysbysu'r awdurdod gorfodi, y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol, o'r holl fanylion perthnasol.

2

Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—

a

yn disgrifio'r difrod;

b

yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ychwanegol am unrhyw ddifrod sydd wedi digwydd;

c

yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal difrod pellach; ac

ch

yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

3

Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Camau gan yr awdurdod gorfodiI1515

Caniateir i unrhyw ddyletswydd yn y Rhan hon sydd ar weithredwr gweithgaredd gael ei chyflawni gan yr awdurdod gorfodi yn lle'r gweithredwr—

a

mewn argyfwng;

b

os nad oes modd darganfod pwy yw'r gweithredwr; neu

c

os yw'r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Dilyn cyfarwyddiadau gan awdurdod cyhoeddusI1616

Pan fo gweithredwr yn gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau awdurdod cyhoeddus, ac o ganlyniad yn achosi neu'n bygwth achosi difrod amgylcheddol, ac felly bod camau yn cael eu cymryd o dan reoliadau 13, 14 neu 15 yna, oni bai bod y cyfarwyddiadau yn ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun, caiff y gweithredwr adennill costau gweithredoedd o dan y rheoliadau hynny oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 3Adfer

Asesu difrodI1717

Pan fo difrod wedi'i achosi, a bod seiliau rhesymol dros gredu ei fod, neu y gall fod, yn ddifrod amgylcheddol, rhaid i'r awdurdod gorfodi gadarnhau a yw'n ddifrod amgylcheddol ai peidio.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 17 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Penderfynu atebolrwydd i adferI1818

1

Os bydd yr awdurdod gorfodi'n penderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr neu weithredwyr unrhyw weithgaredd neu weithgareddau a achosodd y difrod (gweithredwr y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y gweithredwr cyfrifol” (“the responsible operator”))—

a

bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

b

bod gweithgaredd y gweithredwr cyfrifol yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

c

bod rhaid i'r gweithredwr cyfrifol gyflwyno cynigion, o fewn amser a bennir gan yr awdurdod gorfodi, ar gyfer mesurau a fyddai'n sicrhau adferiad i gywiro'r difrod amgylcheddol yn unol ag Atodlen 4; ac

ch

bod gan y gweithredwr cyfrifol hawl i apelio.

2

Caiff yr awdurdod gorfodi dynnu'r hysbysiad yn ôl neu ei amrywio os yw wedi'i fodloni na ddylai'r hysbysiad fod wedi'i gyflwyno neu fod apêl yn erbyn yr hysbysiad yn debyg o lwyddo.

Annotations:
Commencement Information
I18

Rhl. 18 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Apelau yn erbyn atebolrwydd i adferI1919

1

Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 18 hysbysu Gweinidogion Cymru bod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

2

Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 18 oni chaiff y terfyn amser ei estyn gan Weinidogion Cymru.

3

Y seiliau dros apelio yw—

a

nad oedd gweithgaredd y gweithredwr yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

b

bod yr awdurdod gorfodi wedi gweithredu'n afresymol drwy benderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

c

bod y difrod amgylcheddol wedi bod yn ganlyniad i gydymffurfio â chyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus (ac eithrio cyfarwyddyd sy'n ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun);

ch

nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu ddigwyddiad a awdurdodwyd yn bendant gan drwydded a restrir yn Atodlen 3 ac a oedd yn cydymffurfio'n llawn ag amodau'r drwydded honno;

d

nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu weithgaredd neu unrhyw ddull o ddefnyddio cynnyrch yn ystod gweithgaredd y mae'r gweithredwr yn dangos nad oedd yn cael ei ystyried yn debyg o achosi difrod amgylcheddol yn ôl cyflwr gwybodaeth wyddonol a thechnegol pan gafodd yr allyriad ei ollwng neu pan ddigwyddodd y gweithgaredd;

dd

bod y difrod amgylcheddol yn ganlyniad i weithred trydydd parti a'i fod wedi digwydd er gwaethaf y ffaith bod y gweithredwr cyfrifol wedi cymryd pob mesur diogelwch priodol.

4

Nid yw paragraff 3(d) yn gymwys mewn perthynas â gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig.

5

Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

6

Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl gadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 19 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Hysbysiadau adferI2020

1

Pan fydd yn cael y cynigion oddi wrth y gweithredwr cyfrifol (neu, os na cheir cynnig o fewn terfyn amser penodedig, unrhyw bryd ar ôl i'r terfyn amser ddirwyn i ben), rhaid i'r awdurdod gorfodi, i'r graddau y mae'n ymarferol, ymgynghori â'r canlynol—

a

unrhyw un sydd wedi hysbysu awdurdod gorfodi o dan reoliad 29, a

b

unrhyw berson y bydd y mesurau adfer yn cael eu cyflawni ar ei dir,

a chaiff ymgynghori ag unrhyw berson arall y mae'n ymddangos yn angenrheidiol ymgynghori ag ef.

2

Ar ôl ymgynghori rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r gweithredwr cyfrifol hysbysiad adfer sy'n rhoi manylion—

a

y difrod;

b

y mesurau sy'n angenrheidiol ar gyfer adfer i gywiro'r difrod, ynghyd â'r rhesymau;

c

y cyfnod pryd y mae'n rhaid cymryd y mesurau hynny ynddo;

ch

unrhyw fesurau ychwanegol i fonitro neu i ymchwilio y mae'n rhaid i'r gweithredwr cyfrifol eu cyflawni yn ystod adferiad; a

d

yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer.

3

Caiff yr awdurdod gorfodi dynnu'r hysbysiad adfer yn ôl neu ei amrywio os yw wedi'i fodloni na ddylai'r hysbysiad adfer fod wedi'i gyflwyno neu y byddai apêl yn erbyn yr hysbysiad adfer yn debyg o lwyddo.

4

Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 20 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Apelio yn erbyn yr hysbysiad adferI2121

1

Caiff y gweithredwr cyfrifol hysbysu Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer ar y sail bod cynnwys yr hysbysiad hwnnw'n afresymol.

2

Dim ond yn erbyn y rhannau hynny o'r hysbysiad adfer sy'n wahanol i'r cynigion a wnaed gan y gweithredwr cyfrifol y caniateir i apêl gael ei dwyn.

3

Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad adfer oni chaiff y terfyn amser gael ei estyn gan Weinidogion Cymru.

4

Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

5

Caiff Gweinidogion Cymru neu'r person penodedig gadarnhau, amrywio neu ddiddymu'r hysbysiad, a rhaid i'r Gweinidogion neu'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad terfynol a'r rhesymau drosto, a chaniateir iddynt neu iddo ychwanegu, os yw'n briodol, gofynion adfer cydadferol pellach y mae'r treiglad amser ers i'r hysbysiad adfer gael ei gyflwyno yn eu gwneud yn angenrheidiol.

6

Nid oes angen cydymffurfio â hysbysiad adfer tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu onid yw'r person sy'n gwrando'r apêl yn cyfarwyddo fel arall.

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 21 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Darpariaethau pellach am hysbysiadau adferI2222

Caiff awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiadau adfer pellach ar unrhyw bryd tra bo gwaith adfer yn cael ei wneud, neu os na fydd y gwaith adfer wedi'i gyflawni, ar ddiwedd y cyfnod adfer, yn ei gwneud yn ofynnol bod gwaith adfer pellach neu wahanol yn cael ei wneud.

Annotations:
Commencement Information
I22

Rhl. 22 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Camau gan yr awdurdod gorfodiI2323

Pan fo wedi'i gadarnhau bod y difrod yn ei farn ef yn ddifrod amgylcheddol, caiff yr awdurdod gorfodi wneud unrhyw waith rhesymol—

a

ar unrhyw bryd os na ellir darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;

b

os bydd gweithredwr cyfrifol yn methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer, p'un a oes apêl yn yr arfaeth ai peidio; neu

c

os nad yw'n ofynnol i'r gweithredwr cyfrifol adfer o dan y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 23 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 4Gweinyddu a gorfodi

Costau pan fo'r awdurdod gorfodi yn gweithredu'n lle'r gweithredwrI2424

1

Mae gweithredwr sy'n atebol i wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am unrhyw gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 15.

2

Mae'r gweithredwr cyfrifol yn atebol am gostau rhesymol yr awdurdod gorfodi am unrhyw gamau a gymerwyd o dan reoliad 23 onid oedd y gweithredwr cyfrifol yn atebol am y camau a gymerwyd.

Annotations:
Commencement Information
I24

Rhl. 24 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Costau sy'n ymwneud â gweinydduI2525

1

Mae gweithredwr sy'n atebol am wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth baratoi unrhyw hysbysiad o dan Ran 2, neu wrth sicrhau cydymffurfedd â'r Rhan honno.

2

Mae'r gweithredwr cyfrifol yn gyfrifol am y costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi o dan Ran 3, sef costau—

a

asesu a yw'r difrod yn ddifrod amgylcheddol;

b

darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;

c

darganfod pa waith adfer sy'n briodol;

ch

gwneud unrhyw ymgynghori sy'n angenrheidiol; a

d

monitro'r adferiad, yn ystod y gwaith ac ar ei ôl.

3

Mae costau'n golygu costau, y mae'r angen i sicrhau bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi'n briodol ac yn effeithiol, yn eu cyfiawnhau.

Annotations:
Commencement Information
I25

Rhl. 25 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Achosion cyfreithiol am gostau gan awdurdod gorfodiI2626

Ni chaniateir i unrhyw achos cyfreithiol i adennill costau gael ei gychwyn gan yr awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio ers dyddiad—

a

cwblhau'r mesurau y mae'r achos yn ymwneud â hwy, neu

b

canfod p'un yw'r gweithredwr sy'n atebol am gyflawni'r mesurau,

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

Annotations:
Commencement Information
I26

Rhl. 26 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Costau y gellir eu hadennill oddi wrth berchennog i fod yn arwystl ar fangreI2727

1

Pan ellir adennill unrhyw gostau o dan y Rheoliadau hyn gan awdurdod gorfodi oddi wrth berson sy'n berchennog ar fangre a bod yr awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw o dan y rheoliad hwn—

a

mae'r costau yn dwyn llog, yn ôl unrhyw gyfradd resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni, o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hyd nes y caiff y swm cyfan ei dalu; a

b

yn ddarostyngedig i'r canlynol, mae'r costau a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre.

2

Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn—

a

pennu swm y costau y mae'r awdurdod gorfodi yn hawlio y gellir eu hadennill;

b

datgan effaith paragraff (1) a chyfradd y llog a benderfynwyd gan yr awdurdod gorfodi o dan y paragraff hwnnw; ac

c

datgan effaith paragraffau (4) i (6).

3

Ar y dyddiad y bydd awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod gyflwyno copi o'r hysbysiad hefyd i bob person arall sydd, yn ôl gwybodaeth yr awdurdod, â buddiant yn y fangre a hwnnw'n fuddiant y gallai'r arwystl effeithio arno.

4

Yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan baragraff (7)(b) neu (c) isod, mae swm unrhyw gostau a bennir mewn hysbysiad o dan y rheoliad hwn a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre—

a

o ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, neu

b

pan fo apêl yn cael ei dwyn o dan baragraff (6), o ddyddiad penderfynu'r apêl yn derfynol,

hyd nes y caiff y costau a'r llog eu hadennill.

5

At ddibenion paragraff (4), mae tynnu apêl yn ôl yn cael yr un effaith â phenderfynu apêl yn derfynol.

6

Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad neu gopi o hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn apelio yn erbyn yr hysbysiad i'r llys sirol cyn pen y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad cyflwyno.

7

Ar apêl o'r fath caiff y llys—

a

cadarnhau'r hysbysiad heb ei addasu;

b

gorchymyn bod yr hysbysiad i gael effaith drwy roi swm gwahanol yn lle'r swm a bennwyd ynddo yn wreiddiol; neu

c

gorchymyn na fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad.

8

Mae gan awdurdod gorfodi, at ddibenion gorfodi arwystl o dan y rheoliad hwn, bob un o'r un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 192518, ac fel arall, fel petai'n forgeisai drwy weithred a chanddo bwerau gwerthu a lesio, derbyn ildiadau lesoedd a phenodi derbynnydd.

9

Yn y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag unrhyw fangre, yw person (ac eithrio morgeisai nad yw mewn meddiant) y mae ganddo, p'un ai yn hawl ei hun neu fel ymddiriedolwr i unrhyw berson arall, hawlogaeth i gael crogrent y fangre neu, pan na fo'r fangre wedi'i lesio ar grogrent, y byddai ganddo'r hawlogaeth honno pe bai'r fangre'n cael ei lesio felly.

Annotations:
Commencement Information
I27

Rhl. 27 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Adennill costau oddi wrth bersonau eraillI2828

Caiff gweithredwr sy'n dod yn atebol i'r awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn (p'un ai wrth gyflawni'r gwaith neu wrth dalu i'r awdurdod gorfodi) adennill y cyfan neu rywfaint o'r costau hynny oddi wrth unrhyw berson arall a achosodd y difrod hefyd.

Annotations:
Commencement Information
I28

Rhl. 28 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Ceisiadau am gamau gan bartïon sydd â buddiantI2929

1

Caiff unrhyw berson—

a

y mae difrod amgylcheddol yn effeithio arno neu y mae'n debyg o effeithio arno, neu

b

y mae ganddo fuddiant digonol fel arall,

hysbysu'r awdurdod gorfodi priodol o unrhyw ddifrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi, neu sydd wedi'i achosi neu y mae bygythiad agos y byddai'n cael ei achosi.

2

Rhaid bod y canlynol yn mynd gyda'r hysbysiad—

a

datganiad yn esbonio'r ffordd y bydd y difrod yn effeithio ar yr hysbysydd, neu'r rheswm bod gan yr hysbysydd fuddiant digonol; a

b

gwybodaeth sy'n ddigon i alluogi'r awdurdod gorfodi i ganfod lleoliad a natur y digwyddiad.

3

Rhaid i'r awdurdod gorfodi ystyried yr hysbysiad a rhoi gwybod i'r hysbysydd am y camau, os oes rhai, y mae'n bwriadu eu cymryd.

4

Cyn cymryd unrhyw benderfyniad, rhaid i'r awdurdod gorfodi, os yw'n ymarferol—

a

hysbysu'r gweithredwr o dan sylw o'r hysbysiad a'r wybodaeth sy'n dod gyda'r hysbysiad; a

b

gwahodd y gweithredwr hwnnw i gyflwyno sylwadau arnynt.

5

Ni fydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys—

a

os nad yw'r hysbysydd yn debyg o gael ei effeithio neu os nad oes ganddo fuddiant digonol;

b

os nad yw'r wybodaeth a ddarperir, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn datgelu unrhyw ddifrod amgylcheddol neu fygythiad o ddifrod amgylcheddol; neu

c

os nad yw'n ymarferol, oherwydd natur frys y sefyllfa, i'r awdurdod gorfodi gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Annotations:
Commencement Information
I29

Rhl. 29 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Rhoi hawliau mynediad etc. ac iawndal amdanyntI3030

1

Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad cyn bod unrhyw waith sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud, roi, neu ymuno i roi, hawliau o'r fath mewn perthynas ag unrhyw dir neu ddŵr a fyddai'n galluogi'r gweithredwr, neu berson sy'n gweithredu ar ran y gweithredwr, wneud y gwaith hwnnw.

2

Mae gan berson sy'n rhoi, neu sy'n ymuno i roi, unrhyw hawliau sy'n ofynnol gan baragraff (1) hawlogaeth i gael gan y gweithredwr iawndal a benderfynir yn unol ag Atodlen 6.

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 30 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Pwerau personau awdurdodedigI3131

1

Caiff awdurdodau gorfodi awdurdodi personau at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn.

2

Mae'r pwerau yn adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 199519 yn gymwys o ran y Rheoliadau hyn, ac mae pwerau personau a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn yr adran honno'n arferadwy gan bersonau a awdurdodwyd gan unrhyw awdurdod gorfodi.

3

Mae'r pwerau hynny wedi'u hestyn i bob ardal y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddi.

4

Yn ychwanegol, caiff person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru sy'n gorfodi'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r môr fynd ar fwrdd llong neu weithfa forol ar unrhyw bryd a'i harolygu.

5

At ddibenion arfer y pwerau yn y rheoliad hwn, caiff y person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i long neu weithfa forol—

a

stopio; neu

b

gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso mynd ar fwrdd y llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall.

6

Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar fwrdd llong neu weithfa forol, er mwyn glanio o'r llong neu'r weithfa, ei gwneud yn ofynnol i'r llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall—

a

stopio; neu

b

gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n galluogi'r person awdurdodedig, ac unrhyw berson sydd gydag ef, i lanio.

7

Caiff person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd ar fwrdd llestr neu weithfa forol roi unrhyw gyfleusterau a chymorth ynghylch materion sydd o dan reolaeth y person hwnnw y byddai'r person awdurdodedig yn barnu y byddent yn hwyluso'r broses o arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan y rheoliad hwn.

8

Mae'n dramgwydd peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir o dan y rheoliad hwn, neu ddarparu'n fwriadol wybodaeth anwir neu gamarweiniol.

Annotations:
Commencement Information
I31

Rhl. 31 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Darparu gwybodaeth i'r awdurdod gorfodiI3232

Caiff awdurdod gorfodi ei gwneud yn ofynnol i weithredwr ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd ar yr awdurdod gorfodi angen rhesymol amdani i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, a bydd methiant i ddarparu'r wybodaeth honno yn dramgwydd.

Annotations:
Commencement Information
I32

Rhl. 32 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

GorfodiI3333

Ni chaniateir i unrhyw gamau gorfodi gael eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn 30 o flynyddoedd neu fwy ar ôl yr allyriad, yr achlysur neu'r digwyddiad o dan sylw.

Annotations:
Commencement Information
I33

Rhl. 33 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

CosbauI3434

1

Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

a

ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau; neu

b

ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

2

Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

a

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

b

unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

mae'r person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

3

At ddibenion paragraff (2) , ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Annotations:
Commencement Information
I34

Rhl. 34 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Jane DavidsonY Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

Rheoliad 4

Difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiolI351

1

Yn achos rhywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol (ac eithrio difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y mae paragraff 4 yn gymwys iddo), rhaid i natur y difrod olygu bod ganddo effaith andwyol sylweddol ar gyrraedd neu gadw statws cadwraeth ffafriol y rhywogaeth a warchodir neu'r cynefin naturiol gan gymryd i ystyriaeth—

a

y statws cadwraeth adeg y difrod;

b

y gwasanaethau a ddarperir gan yr amwynderau y maent yn eu cynhyrchu;

c

eu gallu i adfywio'n naturiol;

ch

nifer yr unigolion, eu dwysedd neu'r ardal a gwmpesir;

d

rôl yr unigolion penodol neu'r ardal a ddifrodwyd mewn perthynas â'r rhywogaeth neu gadwraeth y cynefin a phrinder y rhywogaeth neu'r cynefin a aseswyd ar y lefel berthnasol p'un ai'n lleol, yn rhanbarthol neu ledled y Gymuned;

dd

gallu'r rhywogaeth i luosogi, ei hyfywedd neu allu'r cynefin i adfywio'n naturiol; ac

e

gallu'r rhywogaeth neu'r cynefin i ymadfer o fewn cyfnod byr i'r amser yr achoswyd y difrod i gyflwr a arweiniodd at ei gyflwr adeg y difrod neu gyflwr gwell heb unrhyw ymyrraeth ac eithrio cynyddu mesurau gwarchod.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Statws cadwraeth cynefinoedd naturiolI362

1

Statws cadwraeth cynefin naturiol yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y cynefin hwnnw a'i rywogaethau nodweddiadol a'r rheini'n ddylanwadau a allai effeithio ar ddosbarthiad, strwythur a swyddogaethau naturiol hirdymor y cynefin hwnnw yn ogystal â goroesiad hirdymor ei rywogaethau nodweddiadol.

2

Mae ei statws cadwraeth yn ffafriol—

a

os yw'r gwasgariad naturiol a'r ardaloedd sy'n cael eu cwmpasu yn y gwasgariad naturiol hwnnw yn sefydlog neu'n cynyddu;

b

os yw'r strwythur a'r swyddogaethau penodol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith cynnal hirdymor ar y cynefin naturiol yn bodoli a'u bod yn debyg o barhau i fodoli hyd y gellir rhag-weld; ac

c

os yw statws cadwraeth ei rywogaethau nodweddiadol yn ffafriol.

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Statws cadwraeth rhywogaethauI373

1

Statws cadwraeth rhywogaeth yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y rhywogaeth o dan sylw ac a allai effeithio ar ddosbarthiad a helaethrwydd ei phoblogaethau yn y tymor hir.

2

Mae statws cadwraeth yn ffafriol—

a

os yw'r data am ddynameg poblogaeth y rhywogaeth o dan sylw yn dangos ei bod yn ymgynnal ei hun ar sail hirdymor fel cydran hyfyw o'i chynefin naturiol;

b

os nad yw gwasgariad naturiol y rhywogaeth yn cael ei leihau nac yn debyg o gael ei leihau hyd y gellir rhag-weld; ac

c

os oes, a'i bod yn debyg y bydd o hyd, gynefin digon mawr i gynnal ei phoblogaethau ar sail hirdymor.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennigI384

1

Yn achos safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rhaid i'r difrod fod yn ddifrod—

a

i'r rhywogaethau neu'r cynefinoedd a hysbyswyd o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Act 198120; neu

b

rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol.

2

Rhaid bod y difrod wedi cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle (hynny yw, cydlyniad ei strwythur ecolegol a'i swyddogaeth, ar draws ei arwynebedd cyfan, sy'n ei alluogi i gynnal cynefin, cymhlethfa o gynefinoedd neu lefelau poblogaethau'r rhywogaethau yr effeithiwyd arnynt).

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Awdurdodiad pendantI395

Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 199421 neu Ran II o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 2Gweithgareddau sy'n achosi difrod

Rheoliad 5

Gweithrediadau y mae'r Atodlen hon yn gymwys iddyntI401

Mae'r Atodlen hon yn rhestru'r gweithgareddau y mae atebolrwydd amdanynt o dan reoliad 5(1).

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gweithredu gweithfeydd a ganiateirI412

Gweithredu gweithfeydd sy'n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd22 (pob gweithgaredd a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno ac eithrio gweithfeydd neu rannau o weithfeydd a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i gynhyrchion a phrosesau newydd, eu datblygu a'u profi).

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gweithrediadau rheoli gwastraffI423

1

Gweithrediadau rheoli gwastraff, gan gynnwys casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff a gwastraff peryglus, goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-ofal dros safleoedd gwaredu, yn ddarostyngedig i drwydded neu gofrestriad yn unol â Chyfarwyddeb 2006/12/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff23 a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus24.

2

Gweithredu safleoedd tirlenwi o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff25 a gweithredu gweithfeydd hylosgi o dan Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylosgi gwastraff26.

3

Nid yw hyn yn cynnwys taenu slwtsh carthion o weithfeydd trin dŵr gwastraff trefol, sydd wedi'i drin yn unol â safon gymeradwy, at ddibenion amaethyddol.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gwastraff mwyngloddioI434

Rheoli gwastraff echdynnol o dan Gyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnol27.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gollyngiadau y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyferI445

1

Pob gollyngiad i mewn i'r dŵr wyneb mewndirol y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 2006/11/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar lygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol a ollyngir i amgylchedd dyfrol y Gymuned28.

2

Pob gollyngiad sylwedd i mewn i ddŵr daear y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 80/68/EEC ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol29.

3

Pob gollyngiad neu chwistrelliad llygrydd i mewn i ddŵr wyneb neu ddŵr daear y mae'n ofynnol cael trwydded, awdurdodiad neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr30.

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Tynnu dŵr a'i gronniI456

Tynnu dŵr a chronni dŵr yn ddarostyngedig i awdurdodiad ymlaen llaw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor yn sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr.

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiolI467

Gweithgynhyrchu, defnyddio, storio, prosesu, llenwi, gollwng i'r amgylchedd a chludo ar safle y deunyddiau canlynol—

a

sylweddau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 67/548/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus 31;

b

paratoadau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 1999/45/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch cyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu paratoadau peryglus32;

c

cynhyrchion diogelu planhigion fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC ynghylch rhoi cynhyrchion diogelu planhigion ar y farchnad33; ac

ch

cynhyrchion bywleiddiol fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar y farchnad34.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

CludiantI478

Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy'r awyr nwyddau peryglus neu nwyddau llygru fel y'u diffinnir yn—

a

Atodiad A i Gyfarwyddeb y Cyngor 94/55/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y ffordd35;

b

yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/49/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y rheilffordd36; ac

c

Cyfarwyddeb y Cyngor 93/75/EEC ynghylch isafswm y gofynion ar gyfer llestrau sy'n mynd i borthladdoedd Cymunedol neu'n ymadael â hwy ac yn cario nwyddau peryglus neu nwyddau llygru37.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Organeddau a addaswyd yn enetigI489

1

Unrhyw ddefnydd amgaeëdig, gan gynnwys cludo, sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys micro-organeddau a addaswyd yn enetig fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/219/EEC ar ddefnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig38).

2

Unrhyw weithred o ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd, cludo a rhoi ar y farchnad organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd39.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniauI4910

Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniau o fewn y Gymuned, i mewn iddi neu allan ohoni, a honno'n weithred y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar ei chyfer neu'n weithred sydd wedi ei gwahardd o dan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gludo llwythi gwastraff40.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 3Trwyddedau, etc.

Rheoliad 19

I501

Mae'r canlynol yn drwyddedau at ddibenion rheoliad 19(3) i'r graddau y maent yn ymwneud â gweithgaredd yn Atodlen 2—

a

trwydded a roddir o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 200741 neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hynny;

b

trwydded a roddir o dan Ran II o Ddeddf Bwyd a Diogelu'r Amgylchedd 198542;

c

cydsyniad gollwng dŵr, gorchymyn sychder cyffredin neu orchymyn sychder brys neu drwydded sychder o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 199143;

ch

awdurdodiad o dan Reoliadau Dŵr Daear 199844;

d

trwydded tynnu dŵr neu drwydded cronni dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

dd

cymeradwyaeth o blaleiddiad o dan Reoliadau Rheoli Plaleiddiaid 198645, awdurdodiad o gynnyrch bywleiddiol o dan Reoliadau Cynhyrchion Bywleiddiol 200146 neu awdurdodiad o blaleiddiad o dan Reoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 200547.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 4Adfer

Rheoliad 18

RHAN 1Adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir

Cymhwyso Rhan 1I511

Mae'r Rhan hon yn ymwneud ag adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Risg i iechyd dynolI522

Rhaid i waith adfer ddileu unrhyw risg o bwys i iechyd dynol.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Yr amcanI533

Amcan adfer yw sicrhau'r un lefel o adnoddyn neu wasanaethau naturiol â'r hyn a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Adferiad sylfaenol ac adferiad cydategolI544

1

Rhaid i'r adferiad gynnwys unrhyw adferiad sylfaenol neu adferiad cydategol a fydd yn sicrhau'r amcan neu'r ddau os bydd hynny'n ei sicrhau.

2

Mae adferiad sylfaenol yn unrhyw fesur adfer sy'n peri i'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig ddychwelyd i'r cyflwr, neu tua'r cyflwr, a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd (mae ymadferiad naturiol yn ffurf a ganiateir ar adferiad sylfaenol mewn achosion priodol).

3

Mae adferiad cydategol yn unrhyw fesur adfer a gymerir mewn perthynas ag adnoddau neu wasanaethau naturiol i wneud iawn am y ffaith nad yw adferiad sylfaenol yn arwain at edfryd yr adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig yn gyfan gwbl yn ôl i'r cyflwr a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Adferiad cydadferolI555

1

Yn ychwanegol rhaid darparu adferiad cydadferol i wneud iawn am golledion interim o ran adnoddau neu wasanaethau naturiol sy'n digwydd o ddyddiad y difrod hyd nes y bydd yr adferiad wedi cyflawni ei amcan; ac yn y paragraff hwn ystyr “colledion interim” (“interim losses”) yw colledion sy'n deillio o'r ffaith nad yw'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd na'r gwasanaethau yn gallu cyflawni eu swyddogaethau ecolegol na darparu gwasanaethau i adnoddau naturiol eraill nac i'r cyhoedd hyd nes y bydd yr adferiad sylfaenol wedi'i gwblhau.

2

Nid yw adferiad cydadferol yn cynnwys iawndal.

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Y dewis o ran adferiadI566

1

Rhaid gwerthuso'r opsiynau adfer gan ddefnyddio'r dulliau gorau sydd ar gael, ac ar sail—

a

effaith pob opsiwn ar iechyd a diogelwch y cyhoedd;

b

y gost o weithredu'r opsiwn;

c

yn achos pob opsiwn, pa mor debyg yw hi y byddai'n llwyddo;

ch

i ba raddau y bydd pob opsiwn yn atal difrod yn y dyfodol, ac yn osgoi difrod ystlysol o ganlyniad i weithredu'r opsiwn;

d

i ba raddau y mae pob opsiwn o fudd i bob un o gydrannau'r adnoddyn naturiol neu'r gwasanaeth;

dd

i ba raddau y mae pob opsiwn yn cymryd i ystyriaeth bryderon cymdeithasol, economaidd a diwylliannol perthnasol a ffactorau perthnasol eraill sy'n ymwneud yn benodol â'r lleoliad;

e

faint o amser y bydd yn ei gymryd i'r gwaith edfryd a wneir i gywiro'r difrod amgylcheddol fod yn effeithiol;

f

i ba raddau y mae pob opsiwn yn sicrhau bod safle'r difrod amgylcheddol yn cael ei edfryd; ac

ff

y cysylltiad daearyddol â'r safle a ddifrodwyd.

Annotations:
Commencement Information
I56

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Canfod adferiad cydategol ac adferiad cydadferolI577

1

Os yw'n bosibl, rhaid i fesurau adfer cydategol a rhai cydadferol ddarparu adnoddau neu wasanaethau naturiol o'r un math, ansawdd a nifer â'r rhai a ddifrodwyd.

2

Pan na fo hynny'n bosibl, rhaid darparu adnoddau neu wasanaethau naturiol tebyg ond gwahanol (er enghraifft, drwy wrthbwyso lleihad yn ansawdd adnoddau neu wasanaethau naturiol drwy gynyddu'r nifer ohonynt).

3

Pan na fo hynny'n bosibl, caniateir i adnoddau neu wasanaethau naturiol gwahanol gael eu darparu, a rhaid i brisiad ariannol y mesurau adfer fod yr un fath â phrisiad ariannol yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

4

Os yw'n ymarferol prisio'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd, ond nad oes modd prisio'r mesurau adfer o fewn cyfnod amser rhesymol neu am bris rhesymol, yna caniateir darparu mesurau adfer y mae eu cost (yn lle eu prisiad ariannol) yn gyfwerth â'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

5

Yn achos adferiad cydategol ar safle newydd, pan fo'n bosibl ac yn briodol, dylai'r safle hwn fod yn ddaearyddol gysylltiedig â'r safle a ddifrodwyd.

Annotations:
Commencement Information
I57

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

OpsiynauI588

1

Wrth werthuso'r gwahanol opsiynau adfer a ganfyddwyd, caniateir penderfynu ar fesurau adfer sylfaenol nad ydynt yn edfryd yn llawn y dŵr neu'r rhywogaethau a warchodir neu'r cynefin naturiol a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr neu i'w cyflwr adeg y digwyddiad neu benderfynu ar fesurau adfer sylfaenol sy'n ei edfryd neu'n eu hedfryd yn fwy araf (er enghraifft, pan ellid darparu'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol cyfwerth yn rhywle arall am gost is).

2

Dim ond os gwneir iawn am yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol sy'n cael eu hepgor o ganlyniad i'r penderfyniad drwy gynyddu'r camau cydategol neu'r rhai cydadferol i ddarparu lefel debyg o adnoddau neu wasanaethau naturiol y ceir gwneud y penderfyniad hwn.

3

Caiff yr awdurdod gorfodi benderfynu ar unrhyw bryd nad oes angen cymryd unrhyw fesurau adfer pellach—

a

os yw'r mesurau adfer sydd eisoes wedi'u cymryd wedi dileu unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol, dŵr neu rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol; a

b

os byddai cost y mesurau adfer y mae eu hangen i edfryd yr hyn a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr cyn y digwyddiad yn anghymesur o'u cymharu â'r buddion amgylcheddol y gellid eu cael.

Annotations:
Commencement Information
I58

Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2Adfer i gywiro difrod i dir

Adfer i gywiro difrod i dirI599

1

Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â difrod i dir.

2

Rhaid i'r adferiad sicrhau, o leiaf, bod yr halogion perthnasol yn cael eu gwaredu, eu rheoli, eu cyfyngu neu eu lleihau fel na fydd y tir mwyach, gan ystyried y defnydd cyfredol cyfreithlon a wneir ohono neu unrhyw ganiatâd cynllunio a oedd yn bodoli adeg y difrod, yn peri unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol.

3

Rhaid i bresenoldeb risgiau o'r fath gael ei asesu drwy weithdrefnau asesu risg gan ystyried nodweddion a swyddogaeth y pridd, y math o sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau niweidiol a'r crynodiad ohonynt, y risg y maent yn ei beri a'r posibilrwydd o'u gwasgaru.

4

Mae ymadferiad naturiol yn ffurf ar adfer a ganiateir mewn achosion priodol.

Annotations:
Commencement Information
I59

Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 5Apelau

Rheoliadau 19 a 21

RHAN 1Apelau os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

I601

Mae'r Rhan hon yn gymwys os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi.

Annotations:
Commencement Information
I60

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I612

Rhaid i hysbysiad o apêl gynnwys—

a

copi o'r hysbysiad neu'r hysbysiad adfer yr apelir yn ei erbyn; a

b

seiliau'r apêl.

Annotations:
Commencement Information
I61

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I623

Pan ddaw hysbysiad i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r hysbysiad am apêl i'r awdurdod gorfodi, a rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon copi ar unwaith at unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod ganddo fuddiant arbennig ym mhwnc yr apêl, a hysbysu Gweinidogion Cymru o bwy y mae wedi'i hysbysu.

Annotations:
Commencement Information
I62

Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I634

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r apelydd o'r terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid i'r apelydd ddarparu mewn ysgrifen—

a

datganiad o achos; a

b

pob gohebiaeth berthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I63

Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I645

Pan ddaw'r rhain i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon yr holl ddogfennau i'r awdurdod gorfodi, gan roi i'r awdurdod gorfodi derfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid iddo roi ymateb ysgrifenedig.

Annotations:
Commencement Information
I64

Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I656

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r un pryd unrhyw berson a hysbyswyd o dan baragraff 3 o'r terfyn amser o dan baragraff 5 a'i wahodd i gyflwyno sylwadau erbyn y dyddiad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I65

Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I667

Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu wedyn a oes angen tystiolaeth bellach, a rhoi cyfarwyddiadau'n unol â hynny.

Annotations:
Commencement Information
I66

Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I678

Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio'r apêl wedyn i berson a benodwyd ganddynt i ymdrin â'r apêl, gan ddatgan wrth y person penodedig a oes rhaid ymdrin â'r apêl drwy weithdrefn ysgrifenedig ai peidio ynteu a oes rhaid cynnal gwrandawiad.

Annotations:
Commencement Information
I67

Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I689

Ar ôl i'r apêl gael ei chwblhau gan y person penodedig, rhaid iddo benderfynu'r mater neu, os caiff ei gyfarwyddo gan Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn bod y penderfyniad wedi'i wneud, gyflwyno argymhelliad i Weinidogion Cymru, a rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu'r apêl.

Annotations:
Commencement Information
I68

Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

I6910

Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau'r partïon (gan gynnwys partïon sy'n cyflwyno sylwadau) y gwêl yn dda.

Annotations:
Commencement Information
I69

Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2Apelau os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

I7011

Os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi, mae'r gweithdrefnau yn Rhan 1 yn gymwys ac eithrio—

a

bod rhaid i Weinidogion Cymru benodi person cyn gynted â bod hysbysiad o apêl yn dod i law;

b

bod rhaid i'r person penodedig gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru a bennwyd yn y Rhan honno; ac

c

bod rhaid i'r person penodedig benderfynu'r apêl ym mhob achos.

Annotations:
Commencement Information
I70

Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 6Iawndal

Rheoliad 30

Iawndal am ganiatáu hawliauI711

Mae'r Atodlen hon yn rhagnodi—

a

y cyfnod pryd y caiff person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawliau yn unol â rheoliad 30 wneud cais am iawndal am ganiatáu'r hawliau hynny;

b

y modd y caniateir i'r cais gael ei wneud, a'r person y caniateir i'r cais gael ei gyflwyno iddo; ac

c

y modd o benderfynu'r iawndal, ar gyfer penderfynu swm yr iawndal ac ar gyfer gwneud darpariaeth atodol ynglŷn â'r iawndal.

Annotations:
Commencement Information
I71

Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

DehongliI722

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y mae hawl wedi'i ganiatáu ohono neu sy'n rhwym o dan hawl a ganiatawyd; ac

  • ystyr “y grantwr” (“the grantor”) yw'r person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawl.

Annotations:
Commencement Information
I72

Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Y cyfnod ar gyfer gwneud caisI733

Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy'n dechrau—

a

ar ddyddiad caniatáu'r hawliau yr hawlir iawndal amdanynt, neu

b

pan fo apêl yn erbyn yr hysbysiad y caniatawyd yr hawliau hynny mewn perthynas ag ef, ar y dyddiad y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu'n ôl,

p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf.

Annotations:
Commencement Information
I73

Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Dull gwneud caisI744

1

Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud mewn ysgrifen a'i draddodi yng nghyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person y rhoddwyd yr hawl iddo neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw.

2

Rhaid i'r cais gynnwys—

a

copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal amdano ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;

b

disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal amdano; ac

c

datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 5 a chan ddangos sut y cyfrifwyd y swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.

Annotations:
Commencement Information
I74

Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy amdanyntI755

Mae iawndal yn daladwy am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—

a

unrhyw ddibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo ac sy'n ganlyniad i ganiatáu'r hawl;

b

colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo—

i

y gellir ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl honno;

ii

nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw; a

iii

sy'n golled neu'n ddifrod y byddai hawlogaeth wedi bod gan y grantwr i gael iawndal ar ffurf iawndal am aflonyddu amdani neu amdano, pe bai'r buddiant hwnnw wedi'i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf Caffael Tir 198148, yn unol â hysbysiad i drafod telerau a gyflwynwyd ar y dyddiad y rhoddwyd y grant o'r hawl;

c

difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth i'w gael nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o grant yr hawl neu o arfer yr hawl;

ch

unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwyd gan y grantwr, ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo, y gellir ei phriodoli neu ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl; a

d

swm unrhyw brisiad a chostau cyfreithiol a dynnwyd yn rhesymol gan y grantwr wrth ganiatáu'r hawl ac wrth baratoi'r cais am iawndal ac wrth negodi swm yr iawndal.

Annotations:
Commencement Information
I75

Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Y sail ar gyfer asesu'r iawndalI766

1

Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf Iawndal Tir 196149 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwys ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.

2

Pan fo'r buddiant perthnasol y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais—

a

rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais;

b

ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais); ac

c

rhaid i unrhyw iawndal sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac, yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.

Annotations:
Commencement Information
I76

Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Penderfynu materion sy'n destun dadlI777

1

Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.

2

Mewn perthynas â phenderfynu unrhyw gwestiwn iawndal, bydd adrannau 2 a 4 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys—

a

fel petai'r cyfeiriad yn adran 2 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (1) o'r paragraff hwn; a

b

fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person y rhoddwyd yr hawliau iddo.

Annotations:
Commencement Information
I77

Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Maent yn gymwys i ddifrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, dŵr a thir (rheoliad 4).

Maent yn cael eu gorfodi gan y cyrff a bennir yn rheoliadau 10 ac 11.

Maent yn darparu, ar gyfer gweithgareddau economaidd penodol, bod rhaid i'r gweithredwr, pan fo risg agos o ddifrod amgylcheddol, gymryd camau i'w atal, ac os yw wedi digwydd, rhaid iddo atal difrod pellach. Pan fo difrod wedi digwydd, rhaid i'r awdurdod gorfodi asesu'r difrod a chanfod mesurau adfer. Rhaid iddo wedyn gyflwyno hysbysiad adfer i'r gweithredwr cyfrifol gan bennu pa waith adfer y mae ei angen (Rhan 3).

Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi (Rhan 4).

Mae torri darpariaethau a bennir yn y Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi—

a

ar gollfarn ddiannod, â dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau; neu

b

ar gollfarn ar dditiad, â dirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.