RHAN 1LL+CDarpariaethau rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a'r ardaloedd a bennir yn rheoliad 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
DehongliLL+C
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adnoddyn naturiol” (“natural resource”) yw—
(a)rhywogaethau a warchodir;
(b)cynefinoedd naturiol;
(c)rhywogaethau neu gynefinoedd ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yr hysbyswyd o'r safle o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1);
(ch)dŵr; a
(d)tir;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2);
ystyr “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yw—
(a)cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar warchod adar gwyllt, neu Atodiad I iddi(3) neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(4);
(b)y cynefinoedd naturiol a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC; ac
(c)safleoedd bridio neu orffwysfannau'r rhywogaethau a restrir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;
ystyr “dŵr daear” (“groundwater”) yw'r holl ddŵr sydd o dan wyneb y ddaear yn y parth dirlawnder ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r ddaear neu'r isbridd;
ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw'r swyddogaethau a gyflawnir gan adnoddyn naturiol er budd adnoddyn naturiol arall neu'r cyhoedd;
ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw unrhyw weithgaredd economaidd, p'un ai'n gyhoeddus neu'n breifat a ph'un a yw'n cael ei gyflawni er elw ai peidio;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy'n gweithredu neu'n rheoli gweithgaredd, deiliad trwydded neu awdurdodiad sy'n ymwneud â'r gweithgaredd hwnnw neu'r person sy'n cofrestru gweithgaredd o'r fath neu'n hysbysu ohono;
ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw'r rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC neu a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC.
(2) Onid ydynt wedi'u diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal a chywiro difrod amgylcheddol(5) yr un ystyr â'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.
(3) Mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol a'u rhoi ar y farchnad, mae “gweithredwr” (“operator”) a “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”) yn cynnwys—
(a)deiliad cydsyniad perthnasol a ddyroddwyd o dan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig(6);
(b)deiliad cydsyniad perthnasol ar gyfer gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(7); neu
(c)deiliad awdurdodiad perthnasol a ddyroddwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(8).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Cyfeiriadau at offerynnau CymunedolLL+C
3. Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau Cymunedol yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Ystyr “difrod amgylcheddol”LL+C
4.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag atal difrod amgylcheddol ac adfer i gywiro'r difrod hwnnw; ac mae “difrod amgylcheddol” (“environmental damage”) yn ddifrod i'r canlynol—
(a)rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig,
(b)dŵr wyneb neu ddŵr daear, neu
(c)tir,
fel a bennir yn y rheoliad hwn.
(2) Mae difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn golygu difrod o fath a bennir yn Atodlen 1.
(3) Mae difrod amgylcheddol i ddŵr wyneb yn golygu difrod i grynofa dŵr wyneb sydd wedi'i dosbarthu fel y cyfryw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(9) fel bod—
(a)elfen ansawdd biolegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,
(b)lefel cemegyn a restrir yn y ddeddfwriaeth yn Atodiad IX neu gemegyn sydd wedi'i restru yn Atodiad X i'r Gyfarwyddeb honno, neu
(c)elfen ansawdd ffisiogemegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,
yn newid digon i leihau statws y grynofa ddŵr yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (p'un a yw'r grynofa ddŵr wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).
(4) Mae difrod amgylcheddol i ddŵr daear yn golygu unrhyw ddifrod i grynofa dŵr daear fel bod ei ddargludedd, lefel neu grynodiad y llygryddion yn newid digon i leihau ei statws yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (ac ar gyfer llygryddion Cyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad(10)) (p'un a yw'r grynofa dŵr daear wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).
(5) Mae difrod amgylcheddol i dir yn golygu halogi tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy'n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Difrod amgylcheddol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddoLL+C
5.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â difrod amgylcheddol os yw wedi'i achosi gan weithgaredd yn Atodlen 2.
(2) Yn achos difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae'r Rheoliadau yn gymwys hefyd o ran difrod amgylcheddol a achosir gan unrhyw weithgaredd arall os oedd y gweithredwr—
(a)yn bwriadu achosi difrod amgylcheddol; neu
(b)yn esgeulus ynghylch a fyddai difrod amgylcheddol yn cael ei achosi.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Yr ardaloedd lle'r mae'r Rheoliadau hyn yn gymwysLL+C
6.—(1) Rhaid i'r difrod fod mewn ardal a bennir yn y tabl canlynol—
Y math o ddifrod | Yr ardal lle mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys |
---|---|
Difrod i ddŵr | Cymru a'r holl ddyfroedd hyd at un filltir fôr tua'r môr o'r gwaelodlin yng Nghymru |
Difrod mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig | Cymru |
Difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol | Cymru |
Difrod i dir | Cymru |
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwaelodlin” (“the baseline”) yw'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987(11)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Deddfwriaeth arallLL+C
7.—(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn lleihau effaith unrhyw ddeddfiad arall ynghylch difrod i'r amgylchedd.
(2) Nid ydynt yn lleihau hawl gweithredwr i gyfyngu atebolrwydd yn unol â Chonfensiwn ar Gyfyngu Atebolrwydd am Hawliadau Morol 1976(12).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
EsemptiadauLL+C
8.—(1) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a)difrod a ddigwyddodd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;
(b)difrod sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, neu y mae bygythiad y bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond bod y difrod hwnnw wedi'i achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw; neu
(c)difrod sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw os yw'n deillio o weithgaredd a ddigwyddodd ac a ddaeth i ben cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Nid ydynt yn gymwys o ran difrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan—
(a)gweithred frawychiaeth;
(b)ffenomenon naturiol eithriadol, ar yr amod bod gweithredwr y gweithgaredd o dan sylw wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i ddiogelu rhag bod difrod yn cael ei achosi gan achlysur o'r fath;
(c)gweithgareddau a'u hunig bwrpas yw diogelu rhag trychinebau naturiol;
(ch)digwyddiad y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas—
(i)Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew;
(ii) Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Sefydlu Cronfa Ryngwladol ar gyfer Iawndal am Ddifrod drwy Lygredd Olew(13); neu
(iii) Confensiwn Rhyngwladol ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew Byncer 2001(14);
(d)gweithgareddau a'u prif bwrpas yw gwasanaethu dibenion amddiffyn gwladol neu ddiogelwch rhyngwladol;
(dd)ymbelydredd o weithgaredd y mae'r Cytuniad a sefydlodd Gymuned Ynni Atomig Ewrop yn ei gwmpasu neu ymbelydredd a achoswyd gan ddigwyddiad neu weithgaredd y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas Confensiwn Paris dyddiedig 29 Gorffennaf 1960 ar Atebolrwydd Trydydd Partïon ym Maes Ynni Niwclear a Chonfensiwn Atodol Brwsel dyddiedig 31 Ionawr 1963; neu
(e)difrod a achoswyd wrth ymgymryd â physgota môr masnachol os cydymffurfiwyd â phob deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pysgota hwnnw.
(3) Dim ond os yw'n bosibl cadarnhau cysylltiad achosol rhwng y difrod a gweithgareddau penodol y maent yn gymwys i ddifrod amgylcheddol a achoswyd gan lygredd gwasgarog ei natur.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Esemptiad rhag difrod i ddŵrLL+C
9.—(1) Nid yw difrod i ddŵr yn cynnwys—
(a)difrod a achosir gan addasiadau newydd i nodweddion ffisegol crynofa dŵr wyneb,
(b)newid i lefel crynofa dŵr daear yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, neu
(c)dirywio o statws uchel i statws da crynofa dŵr wyneb sy'n ganlyniad i weithgareddau newydd o ran datblygiadau dynol cynaliadwy yn unol â'r Gyfarwyddeb honno,
os caiff pob amod ym mharagraff (2) ei gyflawni.
(2) Yr amodau yw—
(a)bod pob cam ymarferol yn cael ei gymryd i leddfu ar yr effaith andwyol ar statws y grynofa ddŵr;
(b)bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau wedi'u gosod a'u hesbonio yn benodol yn y cynllun rheoli basn afon sy'n ofynnol o dan Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a bod yr amcanion yn cael eu hadolygu bob chwe mlynedd;
(c)bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau o ddiddordeb cyhoeddus hollbwysig, neu fod manteision yr addasiadau newydd neu'r newidiadau newydd i iechyd dynol, i waith cadw pobl yn ddiogel neu i ddatblygu cynaliadwy yn drech na chanlyniad y difrod; ac
(ch)nad oes modd i'r amcanion buddiol, y mae'r addasiadau neu'r newidiadau hynny i'r grynofa ddŵr yn gyfrwng i'w cyflawni, gael eu sicrhau drwy ddulliau eraill oherwydd dichonolrwydd technegol neu gostau anghymesur.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007LL+C
10.—(1) Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn os bydd y difrod wedi'i achosi gan weithfa, gweithred wastraff neu offer symudol y mae trwydded neu gofrestriad yn ofynnol ar ei chyfer neu ar eu cyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(15).
(2) Os Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am roi'r drwydded, caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd ym mhob achos.
(3) Os yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am roi'r drwydded—
(a)gorfodir Rhan 2 gan yr awdurdod lleol;
(b)gorfodir Rhan 3 gan—
(i)yr awdurdod lleol os yw'r difrod yn ddifrod i dir;
(ii)Asiantaeth yr Amgylchedd os yw'r difrod yn ddifrod i ddŵr;
(iii)Cyngor Cefn Gwlad Cymru os yw'r difrod yn ddifrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraillLL+C
11.—(1) Os yw'r difrod wedi'i achosi gan weithgaredd nad yw'n ofynnol cael trwydded neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007, gorfodir y Rheoliadau hyn yn unol â'r tabl canlynol.
Y math o ddifrod amgylcheddol | Man y difrod | Yr awdurdod gorfodi |
---|---|---|
Difrod i ddŵr— | Asiantaeth yr Amgylchedd | |
Difrod i r ywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig— | tir | Cyngor Cefn Gwlad Cymru |
dŵr ond nid yn y môr(1) | Asiantaeth yr Amgylchedd | |
y môr | — os yw'r difrod oherwydd gweithgaredd a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth yr Amgylchedd; | |
— fel arall, Gweinidogion Cymru | ||
Niwed i dir— | Yr awdurdod lleol |
(1) Mae “môr” yn cynnwys—
(a)unrhyw fan sydd dan y dŵr adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw; a
(b)pob un o'r canlynol, i'r graddau y mae'r llanw'n llifo adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw—
(i)pob aber neu forgainc; a
(ii)dyfroedd unrhyw sianel, cilfach, bae neu afon.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol eu natur i awdurdod gorfodi ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Rhaid i awdurdod gorfodi gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
GorfodiLL+C
12.—(1) Os oes mwy nag un math o ddifrod, fel bod mwy nag un awdurdod gorfodi, gorfodir y Rheoliadau hyn gan unrhyw un neu gan bob un o'r awdurdodau gorfodi penodedig.
(2) Caiff awdurdod gorfodi ymrwymo i drefniant gydag unrhyw awdurdod gorfodi arall i weithredu ar ei ran.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
1981 p.69. Cafodd Rhan II o'r Ddeddf (sy'n cynnwys adran 28) ei mewnosod gan Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a'i diwygio wedi hynny gan Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16).
OJ Rhif L 103, 25.4.1979, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/102/EC, OJ Rhif L 323, 3.12.2008, t. 31).
OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t. 368).
OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2006/21/EC (OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15).
OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).
OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).
OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 348, 24.12.2008, t. 84).
OJ Rhif L 372, 27.12.2006, t. 19.
Mae'r Confensiwn wedi'i osod yn Atodlen 7 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21).
Rhoddwyd y ddau gonfensiwn hyn ar waith yn Neddf Llongau Masnachol 1995 (p.21).
Fe'i rhoddwyd ar waith yn Neddf Llongau Masnachol 1995 drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf honno gan O.S. 2006/1244.