Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007LL+C

10.—(1Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn os bydd y difrod wedi'i achosi gan weithfa, gweithred wastraff neu offer symudol y mae trwydded neu gofrestriad yn ofynnol ar ei chyfer neu ar eu cyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(1).

(2Os Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am roi'r drwydded, caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd ym mhob achos.

(3Os yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am roi'r drwydded—

(a)gorfodir Rhan 2 gan yr awdurdod lleol;

(b)gorfodir Rhan 3 gan—

(i)yr awdurdod lleol os yw'r difrod yn ddifrod i dir;

(ii)Asiantaeth yr Amgylchedd os yw'r difrod yn ddifrod i ddŵr;

(iii)Cyngor Cefn Gwlad Cymru os yw'r difrod yn ddifrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)