RHAN 4Gweinyddu a gorfodi
Achosion cyfreithiol am gostau gan awdurdod gorfodi26
Ni chaniateir i unrhyw achos cyfreithiol i adennill costau gael ei gychwyn gan yr awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio ers dyddiad—
a
cwblhau'r mesurau y mae'r achos yn ymwneud â hwy, neu
b
canfod p'un yw'r gweithredwr sy'n atebol am gyflawni'r mesurau,
p'un bynnag yw'r diweddaraf.