Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/05/2009.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
27.—(1) Pan ellir adennill unrhyw gostau o dan y Rheoliadau hyn gan awdurdod gorfodi oddi wrth berson sy'n berchennog ar fangre a bod yr awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw o dan y rheoliad hwn—
(a)mae'r costau yn dwyn llog, yn ôl unrhyw gyfradd resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni, o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hyd nes y caiff y swm cyfan ei dalu; a
(b)yn ddarostyngedig i'r canlynol, mae'r costau a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre.
(2) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn—
(a)pennu swm y costau y mae'r awdurdod gorfodi yn hawlio y gellir eu hadennill;
(b)datgan effaith paragraff (1) a chyfradd y llog a benderfynwyd gan yr awdurdod gorfodi o dan y paragraff hwnnw; ac
(c)datgan effaith paragraffau (4) i (6).
(3) Ar y dyddiad y bydd awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod gyflwyno copi o'r hysbysiad hefyd i bob person arall sydd, yn ôl gwybodaeth yr awdurdod, â buddiant yn y fangre a hwnnw'n fuddiant y gallai'r arwystl effeithio arno.
(4) Yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan baragraff (7)(b) neu (c) isod, mae swm unrhyw gostau a bennir mewn hysbysiad o dan y rheoliad hwn a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre—
(a)o ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, neu
(b)pan fo apêl yn cael ei dwyn o dan baragraff (6), o ddyddiad penderfynu'r apêl yn derfynol,
hyd nes y caiff y costau a'r llog eu hadennill.
(5) At ddibenion paragraff (4), mae tynnu apêl yn ôl yn cael yr un effaith â phenderfynu apêl yn derfynol.
(6) Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad neu gopi o hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn apelio yn erbyn yr hysbysiad i'r llys sirol cyn pen y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad cyflwyno.
(7) Ar apêl o'r fath caiff y llys—
(a)cadarnhau'r hysbysiad heb ei addasu;
(b)gorchymyn bod yr hysbysiad i gael effaith drwy roi swm gwahanol yn lle'r swm a bennwyd ynddo yn wreiddiol; neu
(c)gorchymyn na fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad.
(8) Mae gan awdurdod gorfodi, at ddibenion gorfodi arwystl o dan y rheoliad hwn, bob un o'r un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(1), ac fel arall, fel petai'n forgeisai drwy weithred a chanddo bwerau gwerthu a lesio, derbyn ildiadau lesoedd a phenodi derbynnydd.
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag unrhyw fangre, yw person (ac eithrio morgeisai nad yw mewn meddiant) y mae ganddo, p'un ai yn hawl ei hun neu fel ymddiriedolwr i unrhyw berson arall, hawlogaeth i gael crogrent y fangre neu, pan na fo'r fangre wedi'i lesio ar grogrent, y byddai ganddo'r hawlogaeth honno pe bai'r fangre'n cael ei lesio felly.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 27 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: