RHAN 1LL+CDarpariaethau rhagarweiniol

EsemptiadauLL+C

8.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)difrod a ddigwyddodd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

(b)difrod sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, neu y mae bygythiad y bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond bod y difrod hwnnw wedi'i achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw; neu

(c)difrod sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw os yw'n deillio o weithgaredd a ddigwyddodd ac a ddaeth i ben cyn y dyddiad hwnnw.

(2Nid ydynt yn gymwys o ran difrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan—

(a)gweithred frawychiaeth;

(b)ffenomenon naturiol eithriadol, ar yr amod bod gweithredwr y gweithgaredd o dan sylw wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i ddiogelu rhag bod difrod yn cael ei achosi gan achlysur o'r fath;

(c)gweithgareddau a'u hunig bwrpas yw diogelu rhag trychinebau naturiol;

(ch)digwyddiad y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas—

(i)Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew;

(ii) Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Sefydlu Cronfa Ryngwladol ar gyfer Iawndal am Ddifrod drwy Lygredd Olew(1); neu

(iii) Confensiwn Rhyngwladol ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew Byncer 2001(2);

(d)gweithgareddau a'u prif bwrpas yw gwasanaethu dibenion amddiffyn gwladol neu ddiogelwch rhyngwladol;

(dd)ymbelydredd o weithgaredd y mae'r Cytuniad a sefydlodd Gymuned Ynni Atomig Ewrop yn ei gwmpasu neu ymbelydredd a achoswyd gan ddigwyddiad neu weithgaredd y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas Confensiwn Paris dyddiedig 29 Gorffennaf 1960 ar Atebolrwydd Trydydd Partïon ym Maes Ynni Niwclear a Chonfensiwn Atodol Brwsel dyddiedig 31 Ionawr 1963; neu

(e)difrod a achoswyd wrth ymgymryd â physgota môr masnachol os cydymffurfiwyd â phob deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pysgota hwnnw.

(3Dim ond os yw'n bosibl cadarnhau cysylltiad achosol rhwng y difrod a gweithgareddau penodol y maent yn gymwys i ddifrod amgylcheddol a achoswyd gan lygredd gwasgarog ei natur.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

(1)

Rhoddwyd y ddau gonfensiwn hyn ar waith yn Neddf Llongau Masnachol 1995 (p.21).

(2)

Fe'i rhoddwyd ar waith yn Neddf Llongau Masnachol 1995 drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf honno gan O.S. 2006/1244.