Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/05/2009.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 4
1.—(1) Yn achos rhywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol (ac eithrio difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y mae paragraff 4 yn gymwys iddo), rhaid i natur y difrod olygu bod ganddo effaith andwyol sylweddol ar gyrraedd neu gadw statws cadwraeth ffafriol y rhywogaeth a warchodir neu'r cynefin naturiol gan gymryd i ystyriaeth—
(a)y statws cadwraeth adeg y difrod;
(b)y gwasanaethau a ddarperir gan yr amwynderau y maent yn eu cynhyrchu;
(c)eu gallu i adfywio'n naturiol;
(ch)nifer yr unigolion, eu dwysedd neu'r ardal a gwmpesir;
(d)rôl yr unigolion penodol neu'r ardal a ddifrodwyd mewn perthynas â'r rhywogaeth neu gadwraeth y cynefin a phrinder y rhywogaeth neu'r cynefin a aseswyd ar y lefel berthnasol p'un ai'n lleol, yn rhanbarthol neu ledled y Gymuned;
(dd)gallu'r rhywogaeth i luosogi, ei hyfywedd neu allu'r cynefin i adfywio'n naturiol; ac
(e)gallu'r rhywogaeth neu'r cynefin i ymadfer o fewn cyfnod byr i'r amser yr achoswyd y difrod i gyflwr a arweiniodd at ei gyflwr adeg y difrod neu gyflwr gwell heb unrhyw ymyrraeth ac eithrio cynyddu mesurau gwarchod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
2.—(1) Statws cadwraeth cynefin naturiol yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y cynefin hwnnw a'i rywogaethau nodweddiadol a'r rheini'n ddylanwadau a allai effeithio ar ddosbarthiad, strwythur a swyddogaethau naturiol hirdymor y cynefin hwnnw yn ogystal â goroesiad hirdymor ei rywogaethau nodweddiadol.
(2) Mae ei statws cadwraeth yn ffafriol—
(a)os yw'r gwasgariad naturiol a'r ardaloedd sy'n cael eu cwmpasu yn y gwasgariad naturiol hwnnw yn sefydlog neu'n cynyddu;
(b)os yw'r strwythur a'r swyddogaethau penodol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith cynnal hirdymor ar y cynefin naturiol yn bodoli a'u bod yn debyg o barhau i fodoli hyd y gellir rhag-weld; ac
(c)os yw statws cadwraeth ei rywogaethau nodweddiadol yn ffafriol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
3.—(1) Statws cadwraeth rhywogaeth yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y rhywogaeth o dan sylw ac a allai effeithio ar ddosbarthiad a helaethrwydd ei phoblogaethau yn y tymor hir.
(2) Mae statws cadwraeth yn ffafriol—
(a)os yw'r data am ddynameg poblogaeth y rhywogaeth o dan sylw yn dangos ei bod yn ymgynnal ei hun ar sail hirdymor fel cydran hyfyw o'i chynefin naturiol;
(b)os nad yw gwasgariad naturiol y rhywogaeth yn cael ei leihau nac yn debyg o gael ei leihau hyd y gellir rhag-weld; ac
(c)os oes, a'i bod yn debyg y bydd o hyd, gynefin digon mawr i gynnal ei phoblogaethau ar sail hirdymor.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
4.—(1) Yn achos safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rhaid i'r difrod fod yn ddifrod—
(a)i'r rhywogaethau neu'r cynefinoedd a hysbyswyd o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Act 1981(1); neu
(b)rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol.
(2) Rhaid bod y difrod wedi cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle (hynny yw, cydlyniad ei strwythur ecolegol a'i swyddogaeth, ar draws ei arwynebedd cyfan, sy'n ei alluogi i gynnal cynefin, cymhlethfa o gynefinoedd neu lefelau poblogaethau'r rhywogaethau yr effeithiwyd arnynt).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
5. Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994(2) neu Ran II o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
1981 p.69. Cafodd Rhan II o'r Ddeddf (sy'n cynnwys adran 28) ei mewnosod gan Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a'i diwygio wedi hynny gan Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16).
O.S. 1994/2716 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/6.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: