Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+CGweithgareddau sy'n achosi difrod

Gweithrediadau y mae'r Atodlen hon yn gymwys iddyntLL+C

1.  Mae'r Atodlen hon yn rhestru'r gweithgareddau y mae atebolrwydd amdanynt o dan reoliad 5(1).

Gweithredu gweithfeydd a ganiateirLL+C

2.  Gweithredu gweithfeydd sy'n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd(1) (pob gweithgaredd a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno ac eithrio gweithfeydd neu rannau o weithfeydd a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i gynhyrchion a phrosesau newydd, eu datblygu a'u profi).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gweithrediadau rheoli gwastraffLL+C

3.—(1Gweithrediadau rheoli gwastraff, gan gynnwys casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff a gwastraff peryglus, goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-ofal dros safleoedd gwaredu, yn ddarostyngedig i drwydded neu gofrestriad yn unol â Chyfarwyddeb 2006/12/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff(2) a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus(3).

(2Gweithredu safleoedd tirlenwi o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff(4) a gweithredu gweithfeydd hylosgi o dan Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylosgi gwastraff(5).

(3Nid yw hyn yn cynnwys taenu slwtsh carthion o weithfeydd trin dŵr gwastraff trefol, sydd wedi'i drin yn unol â safon gymeradwy, at ddibenion amaethyddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gwastraff mwyngloddioLL+C

4.  Rheoli gwastraff echdynnol o dan Gyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnol(6).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Gollyngiadau y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyferLL+C

5.—(1Pob gollyngiad i mewn i'r dŵr wyneb mewndirol y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 2006/11/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar lygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol a ollyngir i amgylchedd dyfrol y Gymuned(7).

(2Pob gollyngiad sylwedd i mewn i ddŵr daear y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 80/68/EEC ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol(8).

(3Pob gollyngiad neu chwistrelliad llygrydd i mewn i ddŵr wyneb neu ddŵr daear y mae'n ofynnol cael trwydded, awdurdodiad neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(9).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Tynnu dŵr a'i gronniLL+C

6.  Tynnu dŵr a chronni dŵr yn ddarostyngedig i awdurdodiad ymlaen llaw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor yn sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiolLL+C

7.  Gweithgynhyrchu, defnyddio, storio, prosesu, llenwi, gollwng i'r amgylchedd a chludo ar safle y deunyddiau canlynol—

(a)sylweddau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 67/548/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus (10);

(b)paratoadau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 1999/45/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch cyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu paratoadau peryglus(11);

(c)cynhyrchion diogelu planhigion fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC ynghylch rhoi cynhyrchion diogelu planhigion ar y farchnad(12); ac

(ch)cynhyrchion bywleiddiol fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar y farchnad(13).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

CludiantLL+C

8.  Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy'r awyr nwyddau peryglus neu nwyddau llygru fel y'u diffinnir yn—

(a)Atodiad A i Gyfarwyddeb y Cyngor 94/55/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y ffordd(14);

(b)yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/49/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y rheilffordd(15); ac

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 93/75/EEC ynghylch isafswm y gofynion ar gyfer llestrau sy'n mynd i borthladdoedd Cymunedol neu'n ymadael â hwy ac yn cario nwyddau peryglus neu nwyddau llygru(16).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Organeddau a addaswyd yn enetigLL+C

9.—(1Unrhyw ddefnydd amgaeëdig, gan gynnwys cludo, sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys micro-organeddau a addaswyd yn enetig fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/219/EEC ar ddefnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig(17)).

(2Unrhyw weithred o ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd, cludo a rhoi ar y farchnad organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd(18).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniauLL+C

10.  Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniau o fewn y Gymuned, i mewn iddi neu allan ohoni, a honno'n weithred y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar ei chyfer neu'n weithred sydd wedi ei gwahardd o dan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gludo llwythi gwastraff(19).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)

(1)

OJ Rhif L 24, 29.1.2008, t. 8.

(2)

OJ Rhif L 114, 27.4.2006, t. 9, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).

(3)

OJ Rhif L 377, 31.12.91, t. 20, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).

(4)

OJ Rhif L 182, 16.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1).

(5)

OJ Rhif L 332, 28.12.2000, t. 91, fel y'i cywirwyd yn OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t. 52.

(6)

OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15.

(7)

OJ Rhif L 64 ,4.3.2006, t. 52.

(8)

OJ Rhif L 20, 26.1.80, t. 43, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/692/EC (OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t. 48).

(9)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 348, 24.12.2008, t. 84).

(10)

OJ Rhif L 196, 16.8.67, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).

(11)

OJ Rhif L 200, 30.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).

(12)

OJ Rhif L 230, 19.8.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/127/EC (OJ Rhif L 344, 20.12.2008, t. 89).

(13)

OJ Rhif L 123, 24.4.98, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 57).

(14)

OJ Rhif L 319, 12.12.94, t. 7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/89/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 4).

(15)

OJ Rhif L 235, 17.9.96, t. 25, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/90/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 6).

(16)

OJ Rhif L 247, 5.10.93, t. 19, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2002/84/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 324, 29.11.2002, t. 53).

(17)

OJ Rhif L 117, 8.5.90, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/174/EC (OJ Rhif L 59, 5.3.2005, t. 20).

(18)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).

(19)

OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2008 (OJ Rhif L 188, 16.7.2008, t. 7).