- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rheoliad 5
1. Mae'r Atodlen hon yn rhestru'r gweithgareddau y mae atebolrwydd amdanynt o dan reoliad 5(1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
2. Gweithredu gweithfeydd sy'n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd(1) (pob gweithgaredd a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno ac eithrio gweithfeydd neu rannau o weithfeydd a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i gynhyrchion a phrosesau newydd, eu datblygu a'u profi).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
3.—(1) Gweithrediadau rheoli gwastraff, gan gynnwys casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff a gwastraff peryglus, goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-ofal dros safleoedd gwaredu, yn ddarostyngedig i drwydded neu gofrestriad yn unol â Chyfarwyddeb 2006/12/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff(2) a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus(3).
(2) Gweithredu safleoedd tirlenwi o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff(4) a gweithredu gweithfeydd hylosgi o dan Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylosgi gwastraff(5).
(3) Nid yw hyn yn cynnwys taenu slwtsh carthion o weithfeydd trin dŵr gwastraff trefol, sydd wedi'i drin yn unol â safon gymeradwy, at ddibenion amaethyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
4. Rheoli gwastraff echdynnol o dan Gyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnol(6).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
5.—(1) Pob gollyngiad i mewn i'r dŵr wyneb mewndirol y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 2006/11/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar lygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol a ollyngir i amgylchedd dyfrol y Gymuned(7).
(2) Pob gollyngiad sylwedd i mewn i ddŵr daear y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 80/68/EEC ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol(8).
(3) Pob gollyngiad neu chwistrelliad llygrydd i mewn i ddŵr wyneb neu ddŵr daear y mae'n ofynnol cael trwydded, awdurdodiad neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(9).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
6. Tynnu dŵr a chronni dŵr yn ddarostyngedig i awdurdodiad ymlaen llaw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor yn sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
7. Gweithgynhyrchu, defnyddio, storio, prosesu, llenwi, gollwng i'r amgylchedd a chludo ar safle y deunyddiau canlynol—
(a)sylweddau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 67/548/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus (10);
(b)paratoadau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 1999/45/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch cyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu paratoadau peryglus(11);
(c)cynhyrchion diogelu planhigion fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC ynghylch rhoi cynhyrchion diogelu planhigion ar y farchnad(12); ac
(ch)cynhyrchion bywleiddiol fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar y farchnad(13).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
8. Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy'r awyr nwyddau peryglus neu nwyddau llygru fel y'u diffinnir yn—
(a)Atodiad A i Gyfarwyddeb y Cyngor 94/55/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y ffordd(14);
(b)yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/49/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y rheilffordd(15); ac
(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 93/75/EEC ynghylch isafswm y gofynion ar gyfer llestrau sy'n mynd i borthladdoedd Cymunedol neu'n ymadael â hwy ac yn cario nwyddau peryglus neu nwyddau llygru(16).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Unrhyw ddefnydd amgaeëdig, gan gynnwys cludo, sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys micro-organeddau a addaswyd yn enetig fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/219/EEC ar ddefnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig(17)).
(2) Unrhyw weithred o ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd, cludo a rhoi ar y farchnad organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd(18).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
10. Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniau o fewn y Gymuned, i mewn iddi neu allan ohoni, a honno'n weithred y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar ei chyfer neu'n weithred sydd wedi ei gwahardd o dan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gludo llwythi gwastraff(19).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 6.5.2009, gweler rhl. 1(1)
OJ Rhif L 24, 29.1.2008, t. 8.
OJ Rhif L 114, 27.4.2006, t. 9, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).
OJ Rhif L 377, 31.12.91, t. 20, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).
OJ Rhif L 182, 16.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1).
OJ Rhif L 332, 28.12.2000, t. 91, fel y'i cywirwyd yn OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t. 52.
OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15.
OJ Rhif L 64 ,4.3.2006, t. 52.
OJ Rhif L 20, 26.1.80, t. 43, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/692/EC (OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t. 48).
OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 348, 24.12.2008, t. 84).
OJ Rhif L 196, 16.8.67, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).
OJ Rhif L 200, 30.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).
OJ Rhif L 230, 19.8.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/127/EC (OJ Rhif L 344, 20.12.2008, t. 89).
OJ Rhif L 123, 24.4.98, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 57).
OJ Rhif L 319, 12.12.94, t. 7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/89/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 4).
OJ Rhif L 235, 17.9.96, t. 25, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/90/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 6).
OJ Rhif L 247, 5.10.93, t. 19, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2002/84/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 324, 29.11.2002, t. 53).
OJ Rhif L 117, 8.5.90, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/174/EC (OJ Rhif L 59, 5.3.2005, t. 20).
OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).
OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2008 (OJ Rhif L 188, 16.7.2008, t. 7).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: