ATODLEN 1Diwygio Is-ddeddfwriaeth ym maes Addysg

Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010

19

1

Diwygir Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 201022 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 yn lle “Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Cyllidebau Addysg nad ydynt ar gyfer Ysgolion, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003” ac y lle “Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol AALl) (Cymru) 2004” rhodder “Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Ariannol Awdurdod Lleol) (Cymru) 2004”.

3

Yn rheoliad 3(1) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

4

Yn y pennawd i Ran 2 yn lle “Cyllideb AALl” rhodder “Y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion”.

5

Yn lle'r pennawd ar gyfer rheoliad 4 rhodder—

  • Y Gyllideb Addysg nad yw ar gyfer Ysgolion

6

Yn rheoliad 4(1) ac yn yr ail is-baragraff (a) yn rheoliad 6(2) yn lle “ar gyllideb AALl awdurdod lleol” rhodder “ar gyllideb addysg awdurdod lleol nad yw ar gyfer ysgolion”.

7

Yn y pennawd i Atodlen 1 yn lle “Cyllideb AAL yr Awdurdod Lleol” rhodder “Cyllideb Addysg yr Awdurdod Lleol nad yw ar gyfer Ysgolion”.

8

Ym mharagraff 20 o Atodlen 1 yn lle “yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod addysg lleol” rhodder “mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg”.

9

Ym mharagraff 9 o Atodlen 4 yn lle “o gyllideb AALl yr awdurdod” rhodder “o gyllideb addysg yr awdurdod nad yw ar gyfer ysgolion”.