ATODLEN 1Diwygio Is-ddeddfwriaeth ym maes Addysg
Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001
5
1
Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 20017 fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 7 yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.
3
Yn lle rheoliad 10(2)(c) rhodder—
c
peidio â bod yn aelod etholedig o awdurdod lleol sy'n cynnal unrhyw ysgol yn y grŵp nac yn berson a gyflogir gan awdurdod o'r fath mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg
4
Yn rheoliadau 21(9), 22(5) a 24(1)(ch) ac ym mharagraff 7(6) o Atodlen 2, yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol”.