Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005

13.—(1Diwygir rheoliad 36(4) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(1) fel a ganlyn.

(2Ar ddiwedd is-baragraff (b) ychwaneger “a chynnwys yn yr hysbysiad i'r awdurdod lleol wybodaeth am hanes addysg y plentyn ac os yw'r plentyn wedi cael ei asesu neu'n debygol o gael ei asesu ar gyfer anghenion addysgol arbennig o dan Ddeddf Addysg 1996”.

(3Hepgorer is-baragraff (c).