ATODLEN 2Diwygio Is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes Addysg

Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007

22.—(1Diwygir Rheoliadau Lleoli Plant (Cymru) 2007(1) fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 6(1)(c), rhodder —

(c)yr awdurdod lleol, os yw'n wahanol i'r awdurdod ardal,

(i)sy'n cynnal unrhyw ysgol y mae'r plentyn yn ddisgybl ynddi, neu y bwriedir iddo fod yn ddisgybl ynddi, neu

(ii)sy'n gwneud trefniadau i ddarparu addysg i'r plentyn nad yw mewn ysgol yn unol ag adran 19 o Ddeddf Addysg 1996, neu

(iii)os yw'r plentyn yn ddisgybl mewn ysgol nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod lleol, sy'n awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir yr ysgol ynddi;.