Cyfyngiadau a ragnodir
2. Rhaid i ddosbarthiad o arian cyfrifon segur ar gyfer cwrdd â gwariant yng Nghymru gael ei wneud—
(a)ar gyfer cwrdd â gwariant ar ddiogelu neu wella'r amgylchedd, neu wariant sy'n gysylltiedig â hynny, neu
(b)ar gyfer cwrdd â gwariant ar ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau neu gyfleoedd i gwrdd ag anghenion pobl nad ydynt eto wedi cyrraedd 26 mlwydd oed, neu wariant sy'n gysylltiedig â hynny.