xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1317 (Cy.111)

BANCIAU A BANCIO

CYMDEITHASAU ADEILADU

Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010

Gwnaed

20 Ebrill 2010

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 19(1) o Ddeddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Gronfa Loteri Fawr a phersonau priodol eraill yn unol ag adran 19(2) o'r Ddeddf honno.

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 19(3) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn, a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y'i gwneir.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cyfyngiadau a ragnodir

2.  Rhaid i ddosbarthiad o arian cyfrifon segur ar gyfer cwrdd â gwariant yng Nghymru gael ei wneud—

(a)ar gyfer cwrdd â gwariant ar ddiogelu neu wella'r amgylchedd, neu wariant sy'n gysylltiedig â hynny, neu

(b)ar gyfer cwrdd â gwariant ar ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau neu gyfleoedd i gwrdd ag anghenion pobl nad ydynt eto wedi cyrraedd 26 mlwydd oed, neu wariant sy'n gysylltiedig â hynny.

Alun Ffred Jones

Y Gweinidog dros Dreftadaeth, un o Weinidogion Cymru

20 Ebrill 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 yn sefydlu fframwaith ar gyfer cynllun a fydd yn caniatáu dosbarthu'r arian sydd mewn cyfrifon banc a chyfrifon cymdeithasau adeiladu segur er budd y gymuned, gan sicrhau y diogelir hawl perchnogion i adhawlio'u harian.

Mae adran 19(1) o'r Ddeddf honno yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, wneud darpariaeth sy'n cyfyngu'r dibenion y caniateir dosbarthu arian cyfrifon segur ar eu cyfer er mwyn cwrdd â gwariant yng Nghymru, neu gyfyngu'r mathau o bersonau y caniateir dosbarthu arian o'r fath iddynt.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cyfyngu dosbarthu arian cyfrifon segur er mwyn cwrdd â gwariant yng Nghymru i'r hyn sy'n diogelu neu'n gwella'r amgylchedd, neu'r hyn sy'n diwallu anghenion pobl nad ydynt eto wedi cyrraedd 26 mlwydd oed.

Ni luniwyd asesiad effaith mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat neu wirfoddol.