Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 yn sefydlu fframwaith ar gyfer cynllun a fydd yn caniatáu dosbarthu'r arian sydd mewn cyfrifon banc a chyfrifon cymdeithasau adeiladu segur er budd y gymuned, gan sicrhau y diogelir hawl perchnogion i adhawlio'u harian.

Mae adran 19(1) o'r Ddeddf honno yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy Orchymyn, wneud darpariaeth sy'n cyfyngu'r dibenion y caniateir dosbarthu arian cyfrifon segur ar eu cyfer er mwyn cwrdd â gwariant yng Nghymru, neu gyfyngu'r mathau o bersonau y caniateir dosbarthu arian o'r fath iddynt.

Mae'r Gorchymyn hwn yn cyfyngu dosbarthu arian cyfrifon segur er mwyn cwrdd â gwariant yng Nghymru i'r hyn sy'n diogelu neu'n gwella'r amgylchedd, neu'r hyn sy'n diwallu anghenion pobl nad ydynt eto wedi cyrraedd 26 mlwydd oed.

Ni luniwyd asesiad effaith mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sectorau preifat neu wirfoddol.