Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau manwl sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal yng Nghymru y cyfrifiad y cyfarwyddwyd ei gynnal ar 27 Mawrth 2011 gan Orchymyn y Cyfrifiad (Cymru a Lloegr) 2009 (“Gorchymyn y Cyfrifiad”). Maent hefyd yn diddymu darpariaethau Rheoliadau'r Cyfrifiad 2000 (O.S. 2000/1473) a Rheoliadau'r Cyfrifiad (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/3351) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer rhannu Cymru'n ardaloedd cyfrifiad, ardaloedd cydgysylltwyr a dosbarthau cyfrifo. Mae'n darparu hefyd ar gyfer penodi personau i gyflawni'r dyletswyddau a ddyrennir iddynt o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 5 yn darparu y bydd person y mae Gorchymyn y Cyfrifiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo lenwi ffurflen yn y cyfrifiad yn cyflawni ei gyfrifoldeb pan fydd yr holiadur perthnasol (sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg), a bennir yn Atodlen 1 ac sydd wedi'i nodi'n llawn yn Atodlenni 2 i 4 i'r Rheoliadau hyn, wedi dod i law Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig (“yr Awdurdod”). Mae rheoliadau 6 i 12 yn darparu trefniadau manwl ar gyfer dosbarthu'r holiaduron, eu llenwi a'u dychwelyd.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer camau dilynol i'w cymryd os na fydd holiadur a anfonwyd neu a ddosbarthwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn yn cael ei ddychwelyd neu os bydd yn cael ei ddychwelyd yn anghyflawn.

Mae rheoliadau 14 a 15 yn gwneud darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi i berson rhagnodedig neu swyddog cyfrifiad. Maen nhw'n gwneud darpariaeth hefyd i atal gwybodaeth a sicrheir at ddibenion y cyfrifiad rhag cael ei defnyddio, ei chyhoeddi a'i mynegi heb awdurdod ac i sicrhau bod ffurflenni a dogfennau'n cael eu cadw'n ddiogel.

Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer rhoi naill ai datganiad statudol neu ymrwymiad ynglŷn â chyfrinachedd gwybodaeth a sicrheir o ganlyniad i'r cyfrifiad gan bersonau a fydd yn cael gweld yr wybodaeth honno.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnesau, llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol wedi'i atodi i'r memorandwm esboniadol.