Dosbarthu pecynnau i aelwydydd ac etholwyr â llaw8

1

Rhaid i'r Awdurdod ddyroddi i bob cydgysylltydd cyfrifiad—

a

unrhyw becynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad;

b

rhestr sy'n cynnwys cyfeiriadau pob aelwyd yn y gofrestr cyfeiriadau sydd wedi'i lleoli yn ardal y cydgysylltydd hwnnw y mae'n rhaid dosbarthu pecyn aelwyd iddynt o dan y rheoliad hwn;

c

llyfr cofnodion cyfrifo i bob dosbarth cyfrifo yn ardal y cydgysylltydd hwnnw; ac

ch

unrhyw ddogfennau eraill neu wybodaeth arall y mae'n credu bod eu hangen at ddibenion y cyfrifiad.

2

Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad ddynodi swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw i bob dosbarth cyfrifo.

3

Rhaid i'r cydgysylltydd cyfrifiad roi i bob swyddog cyfrifiad a ddynodir o dan baragraff (2) gopi o'r llyfr cofnodion cyfrifo i'w ddosbarth cyfrifo ac wedyn rhaid i'r swyddog cyfrifiad ddosbarthu—

a

pecyn aelwyd i bob aelwyd sy'n meddiannu annedd, neu ran o annedd, a grybwyllir yn y llyfr cofnodion cyfrifo;

b

pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw i bob aelwyd sy'n cynnwys etholwr yn nosbarth cyfrifo'r swyddog cyfrifiad nad yw eisoes wedi cael pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw ac y mae'r cydgysylltydd cyfrifiad wedi rhoi gwybod amdano i'r swyddog; ac

c

pecynnau aelwyd a phecynnau unigol wedi'u talu ymlaen llaw (fel y bo'n briodol) i unrhyw aelwydydd neu etholwyr eraill y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt yn ei ddosbarth cyfrifo.

4

Bydd dyletswydd y swyddog cyfrifiad i ddosbarthu pecyn o dan baragraff (3) wedi'i chyflawni mewn perthynas â phob aelwyd ac etholwr os bydd y swyddog yn trosglwyddo'r pecyn i'r deiliad aelwyd, y cyd-ddeiliad aelwyd neu, os nad oes person o'r fath ar gael, os bydd y swyddog—

a

yn gadael pecyn gyda pherson cyfrifol sy'n honni ei fod yn gweithredu ar ran y person hwnnw; neu

b

os nad oes person cyfrifol ar gael, yn gadael y pecyn neu'n ei anfon drwy'r post i'r cyfeiriad yn y llyfr cofnodion cyfrifo neu'r cyfeiriad y rhoddodd y cydgysylltydd cyfrifiad wybod amdano i'r swyddog.

5

Mewn perthynas â phob pecyn aelwyd neu bob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw a ddosberthir yn unol â'r rheoliad hwn rhaid i'r swyddog cyfrifiad wneud cofnod yn y lle priodol yn y llyfr cofnodion cyfrifo.

6

Rhaid i bob swyddog cyfrifiad roi'r cofnodion yn y llyfr cofnodion cyfrifo i'r cydgysylltydd cyfrifiad y mae'n rhaid iddo wneud cofnod yn y system olrhain holiaduron, yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir gan yr Awdurdod, i ddangos bod pecyn wedi'i ddosbarthu i bob cyfeiriad.

7

Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn atal swyddog cyfrifiad rhag cael ei ddynodi i ddosbarthu i fwy nag un dosbarth cyfrifo.

8

Yn y rheoliad hwn ystyr “llyfr cofnodion cyfrifo” (“enumeration record book”) yw llyfr sydd wedi'i argraffu gan yr Awdurdod ac sy'n cynnwys—

a

cyfeiriadau aelwydydd mewn dosbarth cyfrifo y mae'n rhaid i swyddog cyfrifiad ddosbarthu pecynnau aelwyd iddynt â llaw;

b

y nodau adnabod holiadur ar gyfer pob holiadur H2 sydd i'w ddosbarthu i'r cyfeiriadau hynny; ac

c

lle i swyddog cyfrifiad gofnodi gwybodaeth am y canlynol—

i

unrhyw aelwydydd ychwanegol y daw'r swyddog cyfrifiad o hyd iddynt; a

ii

dosbarthu pob pecyn aelwyd a phob pecyn unigol wedi'i dalu ymlaen llaw.