ATODLEN 1
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Personau rhagnodedig | Teitl fersiwn Saesneg yr holiadur | Teitl fersiwn Cymraeg yr holiadur |
Y person sydd am y tro â gofal unrhyw fangre neu long a grybwyllir yng Ngrŵp B i F yn Atodlen Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad. | Yr holiadur o dan y teitl “CE1 Communal Establishment Questionnaire England and Wales” yn Atodlen 2. | Yr holiadur o dan y teitl “CE2W Holiadur i Sefydliadau Cymunedol — Cymru” yn 2. |
Y deiliad aelwyd neu'r cyd-ddeiliaid aelwyd, neu yn absenoldeb unrhyw berson o'r fath sy'n gallu llenwi ffurflen unrhyw berson sy'n gweithredu ar eu rhan, ym mhob aelwyd yng Nghymru. | Yr holiadur o dan y teitl “H2 Household Questionnaire — Wales” yn Atodlen 3. | Yr holiadur o dan y teitl “H2W Holiadur y Cartref — Cymru” yn Atodlen 3. |
Pan fo erthygl 5(8) o Orchymyn y Cyfrifiad yn gymwys, y person sy'n gyfrifol o dan yr erthygl honno am lenwi ffurflen yng Nghymru. | ||
Pob preswylydd arferol a bennir yng ngholofn (2) yng Ngrŵp B i F yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw, yng Nghymru. | Yr holiadur o dan y teitl “I2 Individual Questionnaire – Wales” yn Atodlen 4. | Yr holiadur o dan y teitl “I2W Holiadur i Unigolion – Cymru” yn Atodlen 4. |
Pob person a bennir yng ngholofn (2) o Grŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy'n gweithredu ar eu rhan, yng Nghymru. | ||
Unrhyw etholwr yng Nghymru sy'n llenwi ffurflen unigol yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad. |