xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1375 (Cy.120) (C.82)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

TRWYDDEDAU A THRWYDDEDU, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010

Gwnaed

27 Ebrill 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 116(4)(b) a (7) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Mai 2010

2.  1 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2009 at ddibenion gwneud gorchmynion o dan baragraff 3 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno:

(a)adran 27(11) (darpariaeth ar gyfer Atodlen 3 i Ddeddf 2009 i gael effaith);

(b)paragraffau 3 a 5 o Atodlen 3 (pŵer i wneud darpariaeth drosiannol wrth fabwysiadu Atodlen 3 i Ddeddf 1982 fel y'i diwygiwyd).

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 8 Mai 2010

3.  8 Mai 2010 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf 2009:

(a)adran 27 (rheoli lleoliadau dawnsio glin ac adloniant rhywiol arall etc) i'r graddau nad ydyw eisoes mewn grym;

(b)Atodlen 3 (lleoliadau dawnsio glin ac adloniant rhywiol arall etc: darpariaeth drosiannol) i'r graddau nad ydyw eisoes mewn grym;

(c)paragraff 23 o Atodlen 7 (diwygio Deddf 2003).

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

27 Ebrill 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed o dan Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 gan Weinidogion Cymru. Mae'n gymwys o ran Cymru.

Mae erthygl 2 yn rhestru darpariaethau'r Ddeddf sy'n dod i rym ar 1 Mai 2010 at ddibenion gwneud gorchmynion ynglŷn â lleoliadau dawnsio glin ac adloniant rhywiol arall. Mae erthygl 3 yn dwyn gweddill darpariaethau Deddf 2009 ynglŷn â lleoliadau adloniant rhywiol i rym ar 8 Mai 2010.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym, neu i'w dwyn i rym, drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynO.S. Rhif
Adran 115 Mawrth 20102010/125
Adran 21 Medi 20102010/999
Adran 319 Ebrill 20102010/999
Adran 419 Ebrill 20102010/999
Adran 512 Mawrth 20102010/507
Adran 625 Ionawr 20102009/3096
Adran 725 Ionawr 20102009/3096
Adran 825 Ionawr 20102009/3096
Adran 925 Ionawr 20102009/3096
Adran 1029 Ionawr 20102010/125
Adran 1129 Ionawr 20102010/125
Adran 1229 Ionawr 20102010/125
Adran 1329 Ionawr 20102010/125
Adran 141 Ebrill 20102010/507
Adran 151 Ebrill 20102010/507
Adran 161 Ebrill 20102010/507
Adran 171 Ebrill 20102010/507
Adran 181 Ebrill 20102010/507
Adran 191 Ebrill 20102010/507
Adran 201 Ebrill 20102010/507
Adran 21 (o ran Cymru a Lloegr)1 Ebrill 20102010/507
Adran 221 Ebrill 20102010/507
Adran 231 Ebrill 20102010/507
Adran 241 Ebrill 20102010/507
Adran 251 Ebrill 20102010/507
Adran 2625 Ionawr 20102009/3096
Adran 27 (yn rhannol o ran Lloegr )2 Mawrth 20102010/507
Adran 27 (yn rhannol o ran Lloegr )6 Ebrill 20102010/722
Adran 2829 Ionawr 20102010/125
Adran 2929 Ionawr 20102010/125
Adran 3029 Ionawr 20102010/125
Adran 3129 Ionawr 20102010/125
Adran 3229 Ionawr 20102010/125
Adran 3329 Ionawr 20102010/125
Adran 5125 Ionawr 20102009/3096
Adran 6125 Ionawr 20102009/3096
Adran 6225 Ionawr 20102009/3096
Adran 6425 Ionawr 20102009/3096
Adran 6725 Ionawr 20102009/3096
Adran 6825 Ionawr 20102009/3096
Adran 6925 Ionawr 20102009/3096
Adran 7025 Ionawr 20102009/3096
Adran 7125 Ionawr 20102009/3096
Adran 7225 Ionawr 20102009/3096
Adran 7325 Ionawr 20102009/3096
Adran 7425 Ionawr 20102009/3096
Adran 7525 Ionawr 20102009/3096
Adran 7625 Ionawr 20102009/3096
Adran 7725 Ionawr 20102009/3096
Adran 7825 Ionawr 20102009/3096
Adran 79 (o ran Cymru, Lloegr a'r Alban)29 Ionawr 20102010/125
Adran 79 (o ran Gogledd Iwerddon)1 Ebrill 20102010/507
Adran 80 (o ran Cymru, Lloegr a'r Alban)29 Ionawr 20102010/125
Adran 80 (o ran Gogledd Iwerddon)1 Ebrill 20102010/507
Adran 8329 Ionawr 20102010/125
Adran 84 (yn rhannol)29 Ionawr 20102010/125
Adran 8830 Tachwedd 20092009/3096
Adran 9130 Tachwedd 20092009/3096
Adran 9729 Ionawr 20102010/125
Adran 9825 Ionawr 20102010/52
Adran 9925 Ionawr 20102010/52
Adran 10125 Ionawr 20102010/52
Adran 1031 Ebrill 20102010/507
Adran 1041 Ebrill 20102010/507
Adran 1051 Ebrill 20102010/507
Adran 1061 Ebrill 20102010/507
Adran 1071 Ebrill 20102010/507
Adran 108 2 (yn rhannol)Mawrth 20102010/507
Adran 108 (yn rhannol)1 Ebrill 20102010/507
Adran 11029 Ionawr 20102010/125
Adran 112 (yn rhannol)25 Ionawr 20102009/3096
Adran 112 (yn rhannol)25 Ionawr 20102010/52
Adran 112 (yn rhannol)29 Ionawr 20102010/125
Adran 112 (yn rhannol)12 Mawrth 20102010/507
Adran 112 (yn rhannol o ran Lloegr)1 Ebrill 20102010/507
Adran 112 (yn rhannol)19 Ebrill 20102010/999
Adran 112 (yn rhannol o ran Cymru)8 Mai 20102010/999
Atodlen 11 Ebrill 20102010/507
Atodlen 2 (o ran Cymru a Lloegr)1 Ebrill 20102010/507
Atodlen 3 (yn rhannol o ran Lloegr )2 Mawrth 20102010/507
Atodlen 3 (yn rhannol o ran Lloegr )6 Ebrill 20102010/722
Atodlen 429 Ionawr 20102010/125
Atodlen 6 (o ran Cymru, Lloegr a'r Alban)29 Ionawr 20102010/125
Atodlen 6 (o ran Gogledd Iwerddon)1 Ebrill 20102010/507
Atodlen 7 (yn rhannol)25 Ionawr 20102009/3096
Atodlen 7 (yn rhannol)29 Ionawr 20102010/125
Atodlen 7 (yn rhannol)12 Mawrth 20102010/507
Atodlen 7 (yn rhannol)1 Ebrill 20102010/507
Atodlen 7 (yn rhannol o ran Lloegr)6 Ebrill 20102010/722
Atodlen 8 (yn rhannol)25 Ionawr 20102009/3096
Atodlen 8 (yn rhannol)25 Ionawr 20102010/52
Atodlen 8 (yn rhannol)29 Ionawr 20102010/125
Atodlen 8 (yn rhannol)1 Ebrill 20102010/507
Atodlen 8 (yn rhannol)19 Ebrill 20102010/999
(3)

1982 p. 30. Diwygiwyd Atodlen 3 i'r Ddeddf honno gan adran 52 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p. 48) a pharagraff 7 o Atodlen 14 iddi, adran 198 o Ddeddf Trwyddedu 2003 a pharagraffau 82 ac 85 o Atodlen 5 iddi, adran 24 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p. 13) a pharagraff 16 o Atodlen 2 iddi, adran 26(1) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p. 60), adrannau 111 a 174 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 22 o Atodlen 7 iddi, O.S. 1984/447, O.S. 2005/886 ac O.S. 2009/2999, ac o ran bwrdeistrefi penodol yn Llundain, gan adran 12 o Ddeddf Cyngor Llundain Fwyaf (Pwerau Cyffredinol) 1986 (p. iv), adran 33 o Ddeddf Awdurdodau Lleol Llundain 2007 (p. ii) ac O.S. 2005/1541. Caiff ei diwygio hefyd gan adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26) o 6 Ebrill 2010 ymlaen o ran Lloegr ac o 8 Mai 2010 ymlaen o ran Cymru.