RHAN 2Profi a Symud

Hysbysu'r bwriad i gigydda anifeiliaid17

1

Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu peri i anifail buchol gael ei gigydda o dan adran 32 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir i dwbercwlosis, rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad i geidwad yr anifail, i roi gwybod iddo am y bwriad i gigydda, ac i wneud yn ofynnol bod y ceidwad yn cadw'r anifail, hyd nes y cigydda hwnnw, neu symudir ef i'w gigydda, ar y cyfryw ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, ac i'w ynysu i'r graddau y bo'n ymarferol oddi wrth ba bynnag anifeiliaid eraill a bennir felly.

2

Pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan baragraff (1), ni chaiff unrhyw berson symud yr anifail ac eithrio i'w gigydda, ac eithrio dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan arolygydd.