Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

Diwygio Gorchymyn Iawndal Brwselosis a Thwbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1978

4.—(1Diwygir Gorchymyn Iawndal Brwselosis a Thwbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1978(1) fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “affected animal”—

(i)yn is-baragraff (a)—

(aa)hepgorer y geiriau “in relation to brucellosis,”; a

(bb)hepgorer “and”; a

(ii)hepgorer is-baragraff (b); ac

(b)yn y diffiniad o “reactor”, hepgorer “or tuberculosis”.

(3Yn erthygl 3 (iawndal am, a phenderfynu gwerth, anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd brwselosis neu dwbercwlosis)—

(a)yn y pennawd, hepgorer “or tuberculosis”;

(b)ym mharagraff (1), hepgorer “or tuberculosis”; ac

(c)hepgorer paragraff (2A).

(4Yn erthygl 4(1) (iawndal am “anifeiliaid rheolydd”) hepgorer “or tuberculosis”.

(1)

O.S.1978/1483. Mewnosodwyd paragraff (2A) o erthygl 3 gan O.S. 1998/2073, erthygl 2. Dirymwyd y Gorchymyn o ran Lloegr gan O.S. 2006/168.