Diwygiadau
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010(1) fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 4, mewnosoder–
“Defnyddio cynhyrchion a sylweddau mewn cyflenwadau preifat
4A. Rhaid i unrhyw gynnyrch neu sylwedd a ddefnyddir mewn cyflenwad preifat wedi 26 Mai 2010 fod yn gynnyrch neu sylwedd y caniateid ei ddefnyddio mewn cyflenwad dŵr o dan reoliad 31 o Reoliadau Cyflenwad Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010(2).”.
(3) Yn lle rheoliad 5(1) rhodder—
“Pan fo diheintio yn rhan o baratoi neu ddosbarthu dŵr, rhaid i'r person perthnasol (fel y'i diffinnir yn adran 80 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991)—
(a)cynllunio, gweithredu a chynnal y broses ddiheintio er mwyn cadw presenoldeb sgil-gynhyrchion diheintio mor isel ag y bo modd heb beryglu effeithiolrwydd y diheintio;
(b)sicrhau y cynhelir effeithiolrwydd y broses ddiheintio,
(c)cadw cofnodion o'r gwaith cynnal a monitro a gyflawnwyd, er mwyn gwirio effeithiolrwydd y broses ddiheintio, ac
(ch)cadw copïau o'r cofnodion hynny ar gael i'w harchwilio gan yr awdurdod lleol, am gyfnod o bum mlynedd.”.
O.S. 2010/66 (Cy.16) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/147 (Cy.22).