Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2010

Darpariaethau trosiannol ac arbed

5.—(1Mae'n gyfreithlon i unrhyw berson y mae ganddo yn union cyn y diwrnod penodedig cyntaf drwydded Deddf 2003 o ran unrhyw fangre ac sy'n defnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003, neu sy'n gwneud gwaith paratoi i ddefnyddio'r fangre fel lleoliad o'r fath o dan y drwydded honno, ddefnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003 tan y trydydd diwrnod penodedig, neu benderfynu cais y mae erthygl 6 neu 7 yn gymwys iddo ac sy'n cael ei wneud gan y person hwnnw (gan gynnwys penderfynu unrhyw apêl yn erbyn gwrthod caniatáu'r cais), p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “trwydded Deddf 2003”, o ran unrhyw fangre, yw trwydded i fangre neu dystysgrif mangre clwb y mae'n gyfreithlon darparu odani adloniant perthnasol yn y fangre honno.

(3Mae paragraff (1) yn gymwys er gwaethaf Atodlen 3 i Ddeddf 1982 (ac o'r herwydd nid yw unrhyw ddefnydd a awdurdodir gan y paragraff hwnnw yn groes i baragraff 6 o'r Atodlen honno) ond fel arall nid yw'n rhagfarnu unrhyw ddeddfiad arall.