(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Deddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) (“Deddf 1981”) o ganlyniad i ddiddymu Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (p.38) (“Deddf 1966”) gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (p.23) (“Deddf 2009”).

Mae'r Gorchymyn yn mewnosod paragraff newydd 17C i Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1981. Effaith y ddarpariaeth hon yw na fydd person yn euog o dramgwydd o dan adran 190 o Ddeddf 2009 (mynd yn groes i orchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o ran pysgodfeydd yng Nghymru) oherwydd unrhyw beth y mae'r person hwnnw yn ei wneud wrth ffermio pysgod os yw'r peth hwnnw yn cael ei wneud neu yn cael ei hepgor o dan awdurdod esemptiad a roddwyd gan Weinidogion Cymru ac yn unol ag unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth yr esemptiad (gweler adran 33(1) o Ddeddf 1981).

Diddymwyd paragraff 10 o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1981 gan Ran 4 o Atodlen 22 i Ddeddf 2009. Effaith y ddarpariaeth hon oedd na fuasai person yn euog o dramgwydd, sef mynd yn groes i is-ddeddf a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (is-ddeddfau i reoleiddio pysgota yn y môr) oherwydd unrhyw beth a wnaed gan y person hwnnw wrth ffermio pysgod, yn ddarostyngedig i'r un amodau a ddisgrifir uchod o ran paragraff newydd 17C o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1981.

Mae'r tramgwydd o dan adran 190 o Ddeddf 2009 yn disodli, o ran Cymru, y tramgwydd o dan Ddeddf 1966 o fynd yn groes i is-ddeddfau o dan adran 5 o'r Ddeddf honno. Mae'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn yn cynnal effaith eang Atodlen 4 i Ddeddf 1981 o ganlyniad i ddiddymu Deddf 1966 gan Ddeddf 2009.

Nid oes asesiad effaith llawn wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan nad yw'n effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.